Meini Coffa Bevan

Dechreuodd gwaith yn ddiweddar ar Feini Coffa Aneurin Bevan a'r ardal o amgylch i sicrhau y gall ymwelwyr a thwristiaid i Flaenau Gwent barhau i fwynhau'r tirnod hwn i sefydlydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r meini'n nodi'r fan lle rhoddodd Aneurin Bevan areithiau awyr agored i dorfeydd mawr o'i etholwyr a'r byd.

Wedi'i gyllido gan Ymddiriedolaeth Amgylcheddol Cwm Tawel, bydd y gwaith yn cynnwys glanhau'r meini coffa, tirlunio, adeiladu waliau ychwanegol, gwaith trwsio ar ffensys, waliau carreg, stepiau a chanllawiau. Gwneir y gwaith gan Tillery Action For You Cyf (TAFY) a dylai gymryd tua saith wythnos i'w orffen.

Dywedodd Neil Hirst, Rheolwr Busnes TAFY:

“Rydym i gyd yn falch iawn i fod yn gweithio ar dirnod mor adnabyddus ac edrychwn ymlaen at adnewyddu, ailwampio a datblygu'r safle a werthfawrogir am flynyddoedd i ddod”.

Mae'r prosiect hefyd wedi galluogi TAFY i greu pedwar cyfle prentisiaeth lleoliad gwaith. Bydd y rhaglen 16 wythnos yn rhoi profiad ar y safle gan hefyd roi cyfle i brentisiaid gael mynediad i hyfforddiant a chymorth galwedigaethol. Caiff 15 o wirfoddolwyr pellach eu recriwtio a rhoddir hyfforddiant iddynt i ennill cymhwyster a gaiff ei gydnabod gan y diwydiant - Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS).

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio, Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae'n bwysig fod safle mor hanesyddol yn cael ei gynnal a chadw i alluogi pawb ohonom i ddeall arwyddocad y meini hir, a godwyd er coffa am Aneurin Bevan - pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd y rhaglen o waith adnewyddu a thirluno yn sicrhau fod y safle'n parhau mewn cyflwr da i ymwelwyr ei fwynhau”.

Mae Tîm y Prosiect Adfywio wrthi'n edrych am gyllid ar gyfer cam 2 fydd yn cynnwys gwaith gwella pellach, megis gwella paneli gwybodaeth ac uwchraddio'r meysydd parcio.