Marchnatwyr Gwent yn mynd am dwf

Mae gan y cwmni, a lansiwyd gyda help Grant Kickstart, swyddfeydd ym Mrynmawr ac mae'n anelu cael tîm o naw o fewn tair blynedd. Caiff Kickstart ei weinyddu ar y cyd gan UK Steel Enterprise sy'n is-gorff i Tata Steel a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Sefydlwyd y cwmni gan Gareth Davies a Gavin Thomas 16 mis yn ôl ac roedd yn canolbwyntio'n wreiddiol ar nwyddau hyrwyddo wedi'u brandio, ac mae bellach wedi ehangu ei wasanaethau cleient i roi cefnogaeth ar gyfer presenoldeb cyfryngau cymdeithasol drwy eu cynnyrch cynllun cyfryngau, ynghyd â Gwasanaethau Datblygu Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer marchnata busnesau bach a chanolig ar sail lwyddiannus.

"Rydym wedi ehangu ein cyfleusterau i gynnwys ein pecyn aml-gyfryngau gan felly helpu busnesau bach a mawr i gael presenoldeb cryf a chyson ar y cyfryngau cymdeithasol", meddai Gavin.

"Yn aml iawn mae busnesau'n rhy brysur i neilltuo amser i wneud yn siŵr fod eu cyfryngau cymdeithasol yn effeithlon a pherthnasol," ychwanegodd. "Gallwn wneud yn siŵr eu bod yn manteisio i'r eithaf ar hyn ac felly osgoi'r llu o faglau a all ddigwydd."

Dywedodd nad yw busnesau yn gwneud defnydd digonol o Instagram a LinkedIn yn arbennig yn eu hymdrechion marchnata.

Mae ochr hyrwyddo'r busnes wedi tyfu'n sylweddol. Gall Eminent Productions roi logo corfforaethol ar bron unrhyw gynnyrch, boed hynny yn gar bach, crys ti, cylch allwedd neu eitem arall.

Mae cleientiaid yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau a meintiau, yn cynnwys cwmnïau ynni, datblygwyr eiddo a chontractwyr llai.

"Mae'r busnes wedi tyfu'n gyflym a rydym yn awr yn barod i gymryd y cam nesaf o ran ehangu," ychwanegodd Gavin. "Rydym yn bwriadu ehangu'r tîm gyda pherson ychwanegol ar yr ochr cyfryngau fideo, yn ogystal â gweinydddydd.

Mewn tair blynedd ein nod yw cael tîm proffesiynol o naw yn cynhyrchu'r holl waith yn llwyr o fewn Eminent fel asiantaeth greadigol lwyddiannus."

Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr UK Steel Enterprise yng Nghymru, "Mae Eminent Productions yn enghraifft wych o'r math o fusnes yr ydym yn anelu eu cefnogi gyda'r rhaglen Kickstart.

"Mae'r cyllid wedi rhyddhau potensial busnes Gareth a Gavin, sy'n awr yn mynd ati i greu swyddi o safon yn yr ardal."

Ychwanegodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: "Mae gan y cynlluniau Kickstart a Kickstart Plus hanes ardderchog o lwyddiant ac rydym yn falch i fod wedi cefnogi Eminent gyda chyllid sefydlu.

"Mae eu cynlluniau ar gyfer twf yn galonogol iawn a byddwn yn parhau i'w cefnogi i ddatblygu hyd yn oed ymhellach. Byddwn yn annog unrhyw fusnes newydd neu fusnes presennol sy'n dymuno tyfu i gysylltu ag Uned Datblygu Economaidd y Cyngor i gael cyngor a chefnogaeth."