Man Engine - Rhodd Anferthol i Gawr o Lowr

Bydd y rhan hon o daith Man Engine Cymru yn Nhredegar yn dathlu Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar, y rhagflaenwr a'r glasbrint ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Daeth Glowyr Lleol, Gweithwyr Haearn a Chwarelwyr at ei gilydd i dalu am gost darparu cymorth meddygol i'w teuluoedd.

Pan ddaeth yr AS lleol Aneurin Bevan yn Weinidog Iechyd, defnyddiodd Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar fel ysbrydoliaeth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed eleni.

Rhoddodd Bevan a'r GIG rodd iechyd i'r genedl a byddwn yn creu rhodd symbolaidd i’w gyflwyno i Man Engine i ddathlu'r pen-blwydd hwn ac etifeddiaeth ein treftadaeth ddiwydiannol sy'n aml yn cael ei anwybyddu.

Mae Man Engine, y pyped mecanyddol enfawr, sy'n debyg i gawr o lowr, yn ymweld â saith o drefi treftadaeth ddiwydiannol bwysicaf de Cymru am wythnos o ddathliadau o'r 8fed – 12fed Ebrill 2018.

Ar 9fed Ebrill bydd y Man Engine yn ymweld â Pharc Bryn Bach yn Nhredegar. Mae gan Barc Bryn Bach hanes mwyngloddio hir a balch ac mae bellach wedi'i drawsnewid yn barc gwledig hardd. Yma, bydd y Man Engine yn dod wyneb yn wyneb gyda’r AS Aneurin Bevan a'r glowyr, chwarelwyr a gweithwyr haearn a ddaeth at ei gilydd i dalu am ffurfio Cymdeithas Cymorth Meddygol dynion gwaith Tredegar ar ffurf cerddoriaeth, drama a diwylliant.

Bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i godi eu lleisiau mewn cân a gwylio wrth i ni ddeffro'r Man Engine a gwylio wrth iddo drawsnewid i'w uchder o 11.2 ac yn derbyn rhodd o iechyd gan Nye ei hun.

Rydym yn chwilio am bobl grefftus i ddod i'n helpu i wneud Potel Foddion a Llwy Garu strwythur helyg ar raddfa fawr. Gallwch chi dreulio drwy'r dydd gyda ni neu dim ond galw heibio am awr yn Nhŷ Bedwellty yn Nhredegar ar y 3ydd a'r 10fed o Fawrth rhwng 10:00 a 16:00.

Mae'r sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer oedolion a phlant hŷn sydd â diddordeb creadigol. Os hoffech ymuno â ni yn y sesiynau galw heibio hyn, cysylltwch â Bedwellty ar 01495 353370 neu 01495 353397 neu drwy sarah.jacob@aneurinleisure.org.uk  Bydd lluniaeth ar gael o Ystafelloedd Te Orchid House neu gallwch ddod â phecyn cinio.

Mae'r tocynnau ar gyfer ymweliad y Man Engine i Barc Bryn Bach, Tredegar (9fed Ebrill 2018) ar gael o www.themanengine.co.uk/cymru  Mae tocynnau archebu’n gynnar yn £3.00. Archebwch eich tocynnau heddiw i osgoi cael eich siomi.

Meddai'r Cynghorydd David Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd: "Rydyn ni eisiau cymaint o bobl â phosib i fod yn rhan o ddigwyddiad Man Engine ym Mlaenau Gwent ac mae hon yn ffordd wych i bobl sy'n mwynhau celf a chrefft gymryd rhan."