Mae Ysgol Gynradd Glanhowy wedi derbyn dyfarniad 'da' gan Estyn.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Estyn ei adroddiad o arolygiad fis Chwefror eleni a barnwyd bod yr ysgol yn 'dda' ym mhob maes - Safonau; Lles ac agweddau at ddysgu; Profiadau addysgu a dysgu; Gofal, cymorth ac arweiniad ac Arweinyddiaeth a rheolaeth.


Mae'r adroddiad yn dweud: 'mae gan ddisgyblion agwedd bositif tuag at ddysgu ac mae'r Pennaeth yn darparu arweinyddiaeth gadarn ac mae ganddi weledigaeth glir ar gyfer gwella’r ysgol hon.'

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn cefnogi'r ysgol yn gryf ac yn darparu lefelau da o her i uwch arweinwyr. Mae llywodraethwyr yn deall gwybodaeth am berfformiad allweddol, yn cymryd rhan weithredol ym mhrosesau hunan arfarnu'r ysgol ac yn trafod a herio cynlluniau gwella'n dda.

Bu'r ysgol ar daith welliant cyflym ac mae wedi symud o fod yn ysgol 'goch' i ysgol 'werdd' yn system cenedlaethol categoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru mewn dim ond tair blynedd.

Meddai'r Pennaeth Rebecca Fowler:

"Rwy'n hynod o falch o'n cymuned ysgol gyfan, mae pawb wedi ymrwymo i wella safonau i'n disgyblion yn Glanhowy, mae hyn wedi digwydd yn gyflym a diolch i bob rhanddeiliad am eu cefnogaeth a'u her. Rydym bellach yn ysgol sy'n gwella'n dda ac mae ein disgyblion a'n staff yn ffynnu. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru ac Estyn wedi cydnabod, cadarnhau a chanmol ein cynnydd anhygoel. Rwy'n gyffrous am ein llwyddiant yn y dyfodol, gan sicrhau bod ein disgyblion gwych yn Nhredegar yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd."

Meddai'r Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

"Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Glanhowy ar yr adroddiad arolygu rhagorol hwn, pleser gwirioneddol i'w ddarllen. Rydym yn parhau i weithio i wella safonau addysg ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc yma ym Mlaenau Gwent ac mae hyn yn dechrau dangos canlyniadau gan ein bod yn gweld adroddiadau Estyn mwy a mwy cadarnhaol ac mae ein nifer o ysgolion 'gwyrdd' yn tyfu. Da iawn i bawb sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn; staff; corff llywodraethu; rhieni ac yn bwysicaf oll y disgyblion gwych."

Lleolir Ysgol Gynradd Glanhowy yng Nghwm Sirhowy yn Nhredegar, Blaenau Gwent, ac mae ganddi tua 300 o ddisgyblion. Mae bron i hanner y disgyblion yn Glanhowy yn derbyn prydau ysgol am ddim ac mae'r Pennaeth wedi bod yn eiriolwr mawr o gyllid ychwanegol sydd wedi'i dynnu i lawr trwy Cymunedau’n Gyntaf a'r Grant Amddifadedd Disgyblion.