Mae partneriaid eisiau eich barn ar Flaenau Gwent y dyfodol

Mae'r pum amcan yn rhan o'r 'Crynodeb o’r Cynllun Llesiant drafft’, a luniwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o'i waith yn cwmpasu ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)’ Llywodraeth Cymru.

Ysgrifennwyd y cynllun drafft yn dilyn asesiad llesiant a rhaglen ymgysylltu gyhoeddus helaeth o'r enw 'Y Blaenau Gwent a Garem', a roddodd gyfle i bobl ddweud eu dweud am sut y byddent yn hoffi i Flaenau Gwent edrych yn y blynyddoedd i ddod. Gallai pobl fynychu cyfres o ddigwyddiadau o amgylch y fwrdeistref sirol neu ddweud eu dweud ar-lein. Defnyddiwyd y safbwyntiau hyn, ynghyd â dadansoddiad manwl o'r ardal a'i hanghenion, i lunio'r cynllun drafft.
Penderfynwyd ar yr amcanion canlynol yn dilyn yr adborth hwn:

  • Y cychwyn gorau mewn bywyd i bawb
  • Cymunedau diogel a chyfeillgar
  • Gofalu am a gwarchod yr amgylchedd naturiol
  • Llunio llwybrau newydd i ffyniant
  • Annog ffyrdd o fyw’n iach

Meddai'r Cyng Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

"Mae hwn yn ddarn o waith hynod o bwysig a fydd yn helpu'r Cyngor a'i bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus i sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym i gyd yn eu darparu yn addas i'r pwrpas ar gyfer y dyfodol a’r hyn y mae’r cymunedau y byddwn yn eu gwasanaethu yn ei ddisgwyl gennym. Mae'n amlwg wrth symud ymlaen y bydd yn cymryd nifer o sefydliadau partner yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn diwallu anghenion pobl Blaenau Gwent orau.”
 
"Mae pobl Blaenau Gwent wedi helpu i lunio'r amcanion hyn trwy ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw ac, ynghyd â'n canfyddiadau ein hunain, mae hyn wedi arwain at bum amcan y credwn fod gennym y pŵer go iawn i achosi newid. Fodd bynnag, mae'r amcanion yn dal i fod yn rhai drafft ar hyn o bryd ac felly rydym yn gwahodd pobl i ddweud eu dweud wrth i ni symud ymlaen tuag at gwblhau'r Cynllun."

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent yn bodoli i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw yn ardal Blaenau Gwent. Am ragor o wybodaeth am y BGC ewch i: http://blaenaugwentpsb.org.uk/?lang=cy-GB

Mae gennych chi tan yr 21ain o Ionawr 2018 i roi sylwadau ar yr amcanion drafft. Cwblhewch yr arolwg ar-lein yma - https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=150953361774