Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Ystruth yn y Blaenau wrth eu boddau gyda'r neuadd a'r ysgol gymunedol newydd yn eu hysgol yn dilyn gwaith adnewyddu 21ain Ganrif

Mae'r gwaith a gwblhawyd hyd yma yn cynnwys ail-fodelu'r brif neuadd a thrawsnewid ardal wag ac ystafelloedd newid cyfagos yn ystafell gymunedol i'w defnyddio gan rieni, staff a sefydliadau lleol.

Bydd y neuadd newydd yn cyfoethogi cwricwlwm disgyblion ar gyfer drama ac addysg gorfforol. Mae gan yr ardal hefyd system wresogi ac awyriant newydd ynghyd â lloriau, goleuadau ac acwsteg. Defnyddir y gofod cymunedol newydd i greu cysylltiadau rhwng rhieni a theuluoedd a bydd sefydliadau cefnogi lleol hefyd yn medru darparu ar gyfer gweithgareddau teuluol a chyrsiau hyfforddiant.

Dywedodd Gail Watkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Ystruth:
"Mae hwn yn gyfleuster gwych sy'n cynnig llawer o botensial ar gyfer gweithgareddau'r dyfodol ac mae'n ddatblygiad cyffrous iawn i adeilad ein hysgol. Rwy'n siŵr y bydd y neuadd newydd yn cefnogi ac yn cyfoethogi'r ffyrdd y gall ein hieuenctid gyfrannu at a manteisio o fod yn rhan o'u cymuned.

"Hoffwn ddiolch i'n rhieni, disgyblion, staff (yn neilltuol ein gofalwr a staff glanhau), Llywodraethwyr, swyddogion yr Awdurdod Lleol ac adeiladwyr am eu hamynedd, cefnogaeth a chydweithrediad yn ystod y prosiect."

Dywedodd y Cyng Clive Meredith, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:
"Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu'r amgylchedd dysgu gorau oll a diolch i weithio partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ar ei raglen arweiniol ar gyfer gwella ysgolion, rydym wedi gallu sicrhau newidiadau cadarnhaol go iawn i'r stad ysgolion yma ym Mlaenau Gwent a gyda hynny lawer o fuddion ychwanegol.

"Roeddwn yn falch i weld iawn cam cyntaf ail-fodelu Ysgol Gynradd Ystruth drosof fy hun a chlywed popeth am yr effaith gadarnhaol a gaiff y gwaith hwn ar y disgyblion a'r staff fydd yn defnyddio'r cyfleusterau newydd yma bob dydd ond hefyd y rhieni, teuluoedd a'r gymuned yn ehangach a gaiff eu hannog i sefydlu cysylltiadau agosach gyda'r ysgol."

Mae'r camau gwaith sydd ar ôl yn cynnwys ail-fodelu y ganolfan adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yr ystafelloedd dosbarth a hefyd yr ardaloedd dysgu awyr agored/chwarae yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ateb anghenion datblygu disgyblion gyda ADY ac yn codi'r ysgol i'r un safon â darpariaeth canolfannau adnoddau eraill ysgolion Blaenau Gwent. Caiff y toiledau hefyd eu hail-fodelu i ddiwallu anghenion staff a disgyblion yn well.