Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ailgyflwyno gwasanaeth rheoli pla

Cynigir y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth gyda Mitie, a fu'n darparu gwasanaethau rheoli pla am dros ddeugain mlynedd.

Gall cartrefi dderbyn triniaethau ar gyfer heigiadau llygod mawr yn rhad ac am ddim. Codir tâl am drin mathau eraill o bla, er enghraifft llygod bach, chwilod du, llau gwely, chwain, morgrug neu gacwn. Bydd disgownt consesiwn i 50% ar gyfer rhai ar fudd-daliadau cymwys.

Caiff y gwasanaeth ei gyllido gan ran o'r cynnydd yn y dreth gyngor a gyflwynwyd yn y gyllideb ddiweddaraf.

Dywedodd y Cyng Haydn Trollope:


"Dangosodd digwyddiadau Gadewch i ni Siarad fod rheoli pla yn faes sydd o gonsyrn i breswylwyr lleol, felly rydym wedi gwrando ar eu sylwadau ac wedi gweithredu. Rydym yn falch i fedru dod â'r gwasanaeth hwn yn ôl i'n helpu cadw ein strydoedd a chartrefi yn rhydd o broblemau ac i ddiogelu iechyd cyhoeddus yn well."

Bydd y gwasanaeth rheoli pla ar gael o ddydd Llun 3 Ebrill 2017. Gofynnir i unrhyw breswylwyr sydd â diddordeb mewn derbyn gwasanaethau i gysylltu'n uniongyrchol â Mitie ar 0344 335 0330 neu drwy e-bost mpc.gwent@mitie.com