Mae Arddangosfa Windrush Cymru

Mae arddangosfa sy’n dathlu hanes cenhedlaeth y Windrush yng Nghymru ar hyn o bryd yn ardal Blaenau Gwent ac ar gael i’w weld hyn nes diwedd mis Awst.

Mae Arddangosfa Windrush Cymru’n yn cofnodi cyflawniadau a chyfraniadau'r rhai a ymgartrefodd yn y DU o'r Caribî yn ogystal â'u disgynyddion. Chwaraeodd yr arloeswyr yma rhan hanfodol wrth ailadeiladu Prydain - gan weithio mewn gweithfeydd dur, pyllau glo, ysbytai a thrafnidiaeth gyhoeddus - gan lunio gwead ein cenedl ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Bydd yr arddangosfa gan Race Council Cymru, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, i’w weld yn y lleoliadau canlynol:

*Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am-4pm).

* Llyfrgell Tredegar (Dydd Llyn i ddydd Mercher a Dydd Gwener 9am-1pm a 2pm-5.30pm a dydd Sadwrn, 9am-1pm).

* Llyfrgell Abertyleri (Dydd Mawrth i ddydd Gwener 9am-1pm a 2pm-5.30pm a dydd Sadwrn, 9am-1pm).

Gallwch hefyd wrando ar Valleys Voices podcast series,  a gynhelir gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent, ble mae Sean Wharton yn rhannu ei stori fel un o ddisgynyddion cenhedlaeth y Windrush a’u brofiadau o gael ei fagu yng Ngwent.

Am fwy o wybodaeth am Genhedlaeth y Windrush, gallwch ymweld â Windrush Generation Foundation trwy glicio ar y ddolen hon 

Efallai, bydd gyda chi ddiddordeb hefyd mewn darllen a chefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru – cynllun sy’n ceisio trechu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru erbyn 2030.