Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r cynllun am addysg Gymraeg

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor yn awr ar gael I’w weld ar y wefan – https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/council/policies-plans-strategies/

Prif amcanion y cynllun yw codi proffil addysg Gymraeg a’r nifer sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal erbyn 2020 drwy gynyddu darpariaeth blynyddoedd cynnar ar gyfer y Gymraeg; gwella cyfraddau trosglwyddo o’r blynyddoedd cynnar I ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd ac uwchradd a gwella deilliannau dysgwyr ymhellach drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhai o’r amcanion ar y ffordd i gael eu cyflawni dgydag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg y fwrdeistref, Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nantyglo, yn parhau i wneud gwelliannau a gweld deilliannau gwell ar gyfer disgyblion. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru I sicrhau fod deilliannau hefyd yn dda yn y ddarpariaeth uwchradd, Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pwl a gaiff ei mynychu gan ddysgwyr Blaenau Gwent,

Mae lleoiliadau meithrin llawn-amser yn awr ar gael ym Mro Helyg ac mae’r Cyngor hefyd yn ystyried datblygu ysgol egin yn ardal cwm Tredegar drwy ail don cyllid Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Councillor Clive Meredith, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Addysg:

“Rydym wedi bod ag ymroddiad ers amser maith I annog a datblygu’r Gymraeg o fewn y gweithle a hefyd yn ein cymunedau. Mae’n bwysig sylweddoli y gall plant o gartrefi di-Gymraeg ddatblygu sgiliau dwyieithog gwirioneddol drwy fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae hyn yn sgil fydd yn ddefnyddiol iawn iddynt yn y  dyfodol.

“Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein Cynllun I ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yma ym Mlaenau Gwent a nawr byddwn yn mynd ati gyda’r gwaith o gyflawni ein hamcanion a chyfrannu tuag at nod y wlad o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”