Llwybrau Paredau Sul y Cofio

Rasa A Chendl
 
Cynhelir Parêd a Gwasanaeth Sul y Cofio i ardal Rasa a Chendl ddydd Sul, 12fed Tachwedd 2017.
 
Bydd y Parêd yn ymgynnull oddeutu 1:30pm yn Nawnsfa Beaufort, yna’n mynd ymlaen i brif fynedfa Theatr Beaufort, ymlaen i Beaufort Rise, i lawr Bryn Beaufort ac i’r Senotaff lle bydd Gwasanaeth Sul y Cofio’n dechrau oddeutu 1:55pm.
 
Ar ôl y Gwasanaeth, bydd y parêd yn ailffurfio ac yn gorymdeithio yn ôl i fyny Beaufort Rise i Theatr Beaufort lle bydd lluniaeth ar gael, cyn i’r digwyddiad ddod i ben.
 
Glyn Ebwy
 
Bydd y Parêd yn ymgynnull yn Stryd Bethcar ger tafarn Wetherspoons, Glyn Ebwy, am 10.15am, ac am 10.30am yn symud ymlaen i Stryd y Farchnad a Heol Libanus i’r Gofeb am y Gwasanaeth Coffa, a fydd yn dechrau am 10.50am.
 
Ar ôl y Gwasanaeth, bydd y parêd yn ailffurfio ac yn gorymdeithio yn ôl i fyny Heol Libanus, a bydd y saliwt yn Stryd y Farchnad cyn i’r digwyddiad ddod i ben.
 
Wedi i’r parêd ymadael, bydd lluniaeth ar gyfer Sefydliadau Ieuenctid yn cael ei ddosbarthu gan gynrychiolwyr Sgowtiaid Penuel, o’r Ganolfan Gweithredu Dysgu ar Stryd y Farchnad.

Brynmawr
 
Cynhelir Parêd a Gwasanaeth Sul y Cofio ym Mrynmawr ddydd Sul, 12fed Tachwedd 2017, gan ymgynnull am 10.15am y tu allan i Glwb y Lleng Brydeinig ar ben uchaf Stryd Beaufort i adael oddeutu 10.25am, drwy Stryd y Brenin, Stryd Somerset, Stryd Bailey ac ymlaen i Stryd Alma, cyn ymwahanu ac ailymgynnull yn Sinema Neuadd y Farchnad yn barod i gynnal “Dwy Funud o Dawelwch” am 11.00am i’w ddilyn gan y Gwasanaeth Coffa.

Bydd y Parêd yn ailffurfio eto oddeutu 11.40am ar Stryd Alma i orymdeithio i’r Senotaff ar Sgwâr y Farchnad i osod torchau. Wedi hyn bydd y Parêd yn dychwelyd i Glwb y Lleng Brydeinig drwy Stryd Beaufort.

Darperir lluniaeth yng Nghlwb y Lleng Brydeinig, Brynmawr.

Nantyglo a’r Blaenau
 
Cynhelir Parêd a Gwasanaeth Sul y Cofio yn ardal Nantyglo a’r Blaenau ddydd Sul, 12fed Tachwedd 2017, yn dechrau am 2.10pm o Groes Garn, Nantyglo, gan symud ymlaen i’r Gofeb, Parc Canol, y Blaenau am Wasanaeth Coffa am 2.45pm.
 
Yn dilyn y Gwasanaeth, bydd y parêd yn ailffurfio ac yn gorymdeithio i’r Sefydliad/Llyfrgell, Stryd Fawr y Blaenau, a bydd saliwt wrth Hen Swyddfeydd y Cyngor Dosbarth cyn ymwahanu wrth Sefydliad Blaenau/Adeilad y Llyfrgell.
 
Wedi i’r Gwasanaeth a’r Parêd ddod i ben, bydd lluniaeth ar gael yng Nghlwb Rygbi Nantyglo. 
 
Hoffwn eich hysbysu ymhellach y bydd cludiant ar gael i’r rhai sy’n mynychu’r Parêd yn ardal y Blaenau, a fydd yn gadael Sefydliad y Blaenau am 2:00pm, am Groes Garn, i ddechrau’r Parêd. Unwaith i’r parêd ymwahanu y tu allan i Sefydliad y Blaenau/y Llyfrgell, bydd cludiant ar gael i fynd â mynychwyr i Glwb Rygbi Nantyglo, a bydd cludiant ar gael hefyd i ddychwelyd mynychwyr y parêd i’r Blaenau oddeutu 6:00pm. 

Tredegar
 
Cynhelir Parêd Sul y Cofio yn Nhredegar, ddydd Sul 12fed Tachwedd 2017. Dylid cyrraedd Eglwys Sant Ioan am 9.45am am y gwasanaeth. Dylid ymgynnull y tu allan i Eglwys Sant Ioan am 10.30am, gorymdeithio i’r senotaff ym Mharc Bedwellty am y gwasanaeth ac i osod torchau, a hynny i ddechrau am 10.50am. Cynhelir “Dwy Funud o Dawelwch” am 11.00am.
 
Abertyleri 

Cynhelir Parêd a Gwasanaeth Sul y Cofio yn Abertyleri ddydd Sul, 12fed Tachwedd 2017. Dylid ymgynnull am 10.15am ar ben uchaf Stryd yr Eglwys, dechrau gorymdeithio am 10.30am, cyrraedd y gofeb am 10.45am, ac yna ailymgynnull am 11.15am i orymdeithio i Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer y Gwasanaeth eglwys.
 
Llanhiledd
 
Dydd Sul 12fed Tachwedd 2017. Dylid ymgynnull am 10.15am yn Eglwys Sant Marc, a gorymdeithio am 10.30am ar gyfer gwasanaeth ger y gofeb, Sefydliad Llanhiledd, am 10.45am.
 
Bournville
 
Dydd Sul 12fed Tachwedd 2017. Dylid ymgynnull yn y Neuadd Gymunedol am 3.00pm. Gosodir torchau wrth y gofeb.