Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:Gwella Mynediad ac Ansawdd Gofodau Agored

Mae Pwyllgor Craffu y Cyngor wedi nodi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar wella mynediad i ac ansawdd gofodau agored a gyflwynwyd yng nghyfarfod heddiw (Dydd Iau 27 Chwefror 2020). Cafodd yr opsiwn cyntaf ei symud gan y pwyllgor; derbyn adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a chamau i roi’r cynigion ar gyfer gwella ar waith.

Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei hadroddiad ‘Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Gwella mynediad i ac ansawdd gofodau agored er budd ein cymunedau, busnesau ac ymwelwyr’ ym mis Hydref 2019 ac mae’n cynnwys blwyddyn archwilio 2019-2020.

Ystyriodd yr adroddiad sut mae’r Cyngor wedi gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth i’r ffyrdd dilynol o weithio:

• Hirdymor;
• Atal;
• Integreiddio;
• Cydweithio; ac 
• Ymgyfraniad.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i waith cadarnhaol y Cyngor yn cynnwys:

• Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem (2019-2022) yn cyfrannu at gyflawni amcan llesiant cymunedau cryf ac amgylcheddol ddeallus;
• Bod yn rhagweithiol wrth geisio cyllid allanol i helpu cyflenwi adnoddau y blaengynllun;
• Gweithio partneriaeth i gyflenwi a chefnogi’r cynllun.

Mae hefyd yn dynodi argymhellion ar gyfer meysydd gwella. Mae’r rhain ar gael yn ail atodiad yr adroddiad a sut mae’r Cyngor yn trin yr argymhellion hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Bu pwyllgor craffu heddiw yn trafod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a symudwyd ymlaen ag opsiwn cyntaf yr adroddiad. Mae’r adroddiad yn dynodi agweddau cadarnhaol a chryfder y gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o  bryd am ofodau agored. Mae’r cynllun yn dangos y cynnydd a wnaed a’r camau gweithredu rydym yn eu cymryd i wella mynediad i ac ansawdd gofodau agored yn unol â’r argymhellion. Mae hyn yn cynnwys ceisio cyllid i reoli tir, gweithio gydag ysgolion i ennyn diddordeb mewn hyrwyddo a deall ein hamgylchedd naturiol.

“Rydym yn ymroddedig i weithio gyda’n partneriaid a chymunedau i sicrhau fod gofodau agored yn hygyrch i’n cymuned ac y byddant yn cael budd o’r gofodau gwyrdd o amgylch y Fwrdeistref.”

Mae’r adroddiad ar gael ar y ddolen ddilynol:

http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=1164&MId=1833&Ver=4&LLL=0