Lansio offer ymosodiad asid ym Mlaenau Gwent

Cynhaliwyd digwyddiad yn ddiweddar yng Nghlwb Rygbi Tredegar gan Heddlu Gwent yn ddiweddar i hysbysu cyrchfannau cymdeithasol ledled Gwent, yn cynnwys tafarnwyr a safleoedd mawr lle mae pobl yn ymgasglu, am offer ymosodiad asid. Mae ymestyn y cynllun ar draws Heddlu Gwent yn golygu y bydd gan bobl fynediad i'r offer pe byddai digwyddiad, gan roi cymorth cyntaf ar unwaith nes y gall y gwasanaethau argyfwng gyrraedd.

Bu tua 50 o bobl yn bresennol yn y lansiad, yn cynnwys llawer o ddeiliaid trwydded, cynrychiolwyr o Gyngor Tref Tredegar, Paneli Atal Troseddu Tredegar/Glynebwy a Blaenau, tîm Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Heddlu a'r Cynghorwyr Ward, Haydn Trollope, Tommy Smith a Malcolm Cross.

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r grŵp gan yr Arolygydd Heddlu Amanda Thomas a rhoddwyd cyfarwyddiadau manwl am sut i ddefnyddio'r offer gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae'r offer yn cynnwys offer diogelu personol a llawer o eitemau sy'n caniatáu trin llosgiadau ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys poteli dŵr, rhwymynnau, menig cemegol, masgiau wyneb a gogls diogelwch. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r offer i drin pob math o anafiadau yn ymwneud â sylweddau peryglus.

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope o Ward Canol a Gorllewin Tredegar:

“Rydym yn falch iawn i gefnogi'r cynllun hwn a helpu cadw pobl Blaenau Gwent yn ddiogel. Ni fu erioed ymosodiad asid yn ein hardal a gobeithiwn na fydd byth amser pan fydd angen defnyddio'r offer yma.”

Cafodd cyfanswm o 19 pecyn offer eu prynu eisoes yn uniongyrchol gan nifer o dafarnwyr, ariannwyd chwech gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Heddlu Gwent a chwech arall gan Gynghorau Tref Brynmawr a Thredegar a phaneli Atal Troseddu.

Gellir prynu'r offer o wefan SP Services www.spservices.co.uk ar gost o £59.99p (cod cynnyrch BU/201