Lansio Llysgenhadon Twristiaeth Blaenau Gwent

Daeth busnesau o bob rhan o Flaenau Gwent at ei gilydd ar gyfer lansiad Llysgenhadon Twristiaeth Blaenau Gwent. Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod Wythnos Llysgenhadon Cymru ac Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2024. 

Mae'r cynllun yn darparu cyfle hyfforddi ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y cyfleoedd twristiaeth sydd ar gael ym Mlaenau Gwent gyfan, ei chymoedd hardd, ei thirweddau gwyllt a'i threftadaeth ddiwydiannol ddiddorol. Gall llysgenhadon ddysgu ar-lein mewn ychydig o fodiwlau hawdd. Gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun, gartref neu yn eich gweithle. Mae pob modiwl yn cynnwys cyfres o glipiau fideo, delweddau a thestun ac yna cwis byr ar y cynnwys.

I'r rhai sy'n dilyn y cwrs bydd yn dyfnhau eu gwybodaeth leol o'r ardal gan eu galluogi i ddarparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid. Bydd yn hwb i'w hyder i rannu gwybodaeth am Flaenau Gwent gydag eraill, ennill sgiliau newydd i ychwanegu at eu CVs ac, yn anad dim, dathlu a meithrin balchder ac angerdd yn ein rhanbarth hardd.

I fusnesau lleol, mae'n cynnig rhaglen barod, am ddim ar gyfer sefydlu staff, a help gyda chymhelliant a chadw staff. Bydd yn cynyddu ffyddlondeb ac ymweliadau mynych ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd arosiadau a gwariant ymwelwyr. Bydd yn galluogi staff i ddarparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr ac mae'n ffordd syml, am ddim o ychwanegu gwerth i'w busnesau wrth helpu'r rhanbarth i ddatblygu a chynnal ein cyrchfannau a rhoi hwb i economi Blaenau Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd, 'Pan fyddwch chi’n dod yn Llysgennad Blaenau Gwent, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig wrth gyfoethogi'r profiad cyffredinol i ymwelwyr. Gobeithiwn y bydd pawb sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr, o yrwyr tacsis i berchnogion caffis, gwestywyr, tywyswyr, staff bar neu guraduron amgueddfeydd yn cofrestru ac yn dod yn Llysgennad Twristiaeth ar gyfer Blaenau Gwent. Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor hynod falch yw ein cymuned o'u hardal felly hoffem weld unrhyw un sy'n frwd dros eu hardal leol yn ymuno â ni.'

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Aneurin Leisure a Chadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau Blaenau Gwent, 'Mae hwn yn gyfle gwych i feithrin sgiliau ein holl fusnesau twristiaeth fel bod ein hymwelwyr yn cael y gorau o ddod i Flaenau Gwent. Byddwn yn archwilio’r defnydd o’r adnodd gwych hwn ar gyfer sefydlu staff ar draws ein safleoedd twristiaeth fel y gallwn chwarae ein rhan i uwchwerthu’r Fwrdeistref wych hon. Mae Aneurin Leisure wrth eu boddau o gefnogi'r rhaglen hon ac yn edrych ymlaen at groesawu ein holl ymwelwyr gyda gwybodaeth well.'

Os hoffech fod yn Llysgennad Twristiaeth Blaenau Gwent, cofrestrwch ar y wefan Llysgennad Cymru a dilyn cwrs Blaenau Gwent.

Mae cwrs Llysgenhadon Blaenau Gwent wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac fe'i rheolir gan Rheoli Cyrchfannau yn y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.