Lansio Cyfeiriadur Llesiant Newydd Yn Torri Tir Newydd Yng Nghymru

. Mae Dewis Cymru yn darparu gwybodaeth am ystod eang o wasanaethau lleol a chenedlaethol sy’n gallu helpu pobl i gymryd rheolaeth dros eu llesiant eu hun a gwneud dewisiadau gwybodus am sut maent yn dewis byw eu bywydau.
 
Mae’r wefan newydd yn helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth mae arnynt ei hangen i wella eu llesiant a manteisio ar wasanaethau lleol ledled Cymru. Mae gwefan Dewis Cymru ynarloesiad pwysig i Gymru – un ffynhonnell gwybodaeth glir a dibynadwy sy’n gallu cael ei defnyddio gan y cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol gwasanaethau gofal, gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ac eraill ledled Cymru i helpu i gefnogi pobl i gyflawni eu nodau o ran llesiant.
 
Dywedodd y Cyng Huw David, Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae’n gallu bod yn her dod o hyd i’r wybodaeth gywir. Mae’r adnodd newydd yma’n bwriadu torri trwy’r dryswch drwy gynnig gwybodaeth a chyngor clir, cyson a chyfredol i bobl am eu llesiant ac am ba wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae’r wefan yn achos gwirioneddol i ddathlu, ac yn ffrwyth cydweithredu rhanbarthol a chenedlaethol gwirioneddol. Mae’n adnodd sydd wedi’i greu yng Nghymru, gan Gymru, i Gymru.”
 
Meddi Richard Palmer, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Data Cymru, ac arweinydd prosiect Dewis Cymru:

“Gosododd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ddyletswydd ar awdurdodau lleol ledled Cymru i drefnu bod gwybodaeth am wasanaethau lleol ar gael i’r cyhoedd. Mae Dewisyn rhan o’u hymateb i’r ddyletswydd hon.”
 
Aeth yn ei flaen i ddweud: “Mae gwybodaeth yn allweddol i alluogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain am sut orau i fodloni eu hanghenion llesiant. Ar ôl i’m mam innau farw, roedd fy nhad am fyw yn annibynnol yn y cartref teuluol. Er treulio oriau ar y we, cefais hi’n anodd dod o hyd i wasanaethau priodol i’w gefnogi - yn bennaf oherwydd gwybodaeth anghywir neu a oedd wedi mynd yn hen. Mae Dewis yn sicrhau bod gennym ni ystod eang o wybodaeth gyfredol sydd ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd - gan roi dewis iddynt a’u gallu i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hun.”
 
Dywedodd Damien McCann, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae hwn yn adnodd gwych i’n cymunedau ym Mlaenau Gwent un ai drwy ei gyrchu ei hunan neu drwy ein Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth fydd yn rhoi gwybodaeth i unigolion pan gysylltant â’r gwasanaeth. Mae’n ddull defnyddiol i sicrhau y gall ein cymunedau wneud dewisiadau gwybodus am yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn lleol i gefnogi eu llesiant eu hunain.”


Mae Dewis Cymru wedi’i ddatblygu gan Data Cymru ar ran 22 awdurdod lleol Cymru mewn cydweithrediad ag ystod eang o randdeiliaid cenedlaethol a lleol. Bellach DYMA’R lle i fynd am wybodaeth am lesiant yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, gallwch ymweld â https://www.dewis.wales/home