Lansiad y Ganolfan Diogelwch Cymunedol

Roedd hi'n brysur iawn yr wythnos hon wrth i'r Ganolfan Diogelwch Cymunedol NEWYDD gael ei lansio yng ngorsaf heddlu Glyn Ebwy. Mae'r ganolfan yn fan cyfarfod amlasiantaeth cydweithredol i bartneriaid sy'n ceisio creu cymunedau diogel a chyfeillgar ym Mlaenau Gwent - un o'r amcanion Lles ar gyfer yr ardal.

Esbonia Prif Arolygydd Jason White: “Bydd yr heddlu a phartneriaid yn dod at ei gilydd yn yr un lleoliad dwywaith yr wythnos yn awr i drafod ac ymdrin yn effeithiol â materion, troseddau ac anhrefn amser real trwy ddefnyddio dulliau cydweithredol. Ychwanegwyd at hyn trwy greu cyfarfod pennu tasgau i bartneriaid bob pythefnos, lle bydd yr holl bartneriaid yn nodi ac yn ymateb i fregusrwydd a galw yn ardal Blaenau Gwent ac yn datrys problemau a chynllunio ar gyfer diogelwch.

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae hwn yn ddull sy'n canolbwyntio ar bobl a llefydd ac sy'n cynnwys trafodaethau am bobl sydd wedi bod yn ddioddefwyr fwy nac unwaith, troseddwyr cyson iawn, galwyr mynych, ardaloedd problemus o ran troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a blaenoriaethau sydd wedi cael eu pennu gan y gymuned. Yn ogystal, bydd y materion hyn yn cael eu cydnabod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan gynnwys: Tai Calon, Seren, Melin ac asiantaethau partner eraill. Y nod yw datblygu dull i ymateb i faterion diogelwch cymunedol sy'n seiliedig ar ardal trwy ddatrysiadau ar gyfer y tymor byr, canolig a hir.

“Mae'r syniad yn cyd-fynd ag egwyddorion arweiniol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer gwaith partner, sy'n canolbwyntio ar bum amcan - Meddwl am y Tymor Hir, Atal, Integreiddio, Cydweithio a Chynnwys.

“Mae hwn yn syniad newydd cyffrous a fydd yn cael ei ailadrodd ledled Gwent eleni, gan gynnwys canolfan yng Nghasnewydd yn ystod yr haf 2019.”