Kickstart yn dathlu 15 mlynedd ym Mlaenau Gwent

Sefydlwyd rhaglen arloesol i greu busnesau bach ym Mlaenau Gwent 15 mlynedd yn ôl - ac mae'r manteision hirdymor yn awr yn dod i ffrwyth.    

Lansiwyd Kickstart yn 2001 gan UK Steel Enterprise, sy'n is-gwmni i Tata Steel, a Chyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent. Y nod oedd annog pobl gyda syniadau busnes i'w rhoi ar waith drwy gynnig grantiau a benthyciadau ar lefel leol.    

Cafodd ystod enfawr o fusnesau eu creu ar draws y fwrdeisdref sirol o rai bob dydd i rai soffistigedig a thechnegol iawn.

Dywedodd y Cyng Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent: "Bu cynllun Kicki Start yn gynllun hirsefydlog i gefnogi busnesau newydd a phresennol o fewn yr ardal. Mae'r cynllun a gefnogwyd gan Gyngor Blaenau Gwent wedi gweld nifer o fusnesau'n cael y grant ac felly wedi tyfu dros y blynyddoedd. 

"Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae'r Cyngor yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi busnesau newydd a phresennol drwy Uned Datblygu Economaidd y Cyngor megis cyngor ar fusnesau a rheoli unedau eiddo. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.blaenau-gwent.gov.uk”     

Cafodd Kickstart Plus ei lansio mewn blynyddoedd diweddar hefyd, sy'n rhoi help parhaus i'r mentrau a sefydlwyd dan y cynllun gwreiddiol.   

Mae SteriTouch o Abertyleri yn un stori o lwyddiant rhagorol o raglen Kickstart. Mae'r cwmni wedi datblygu cynnyrch glanweithdra uwch-dechnegol yn seiliedig ar arian a ddefnyddir fel ychwanegyn wrth ei gynhyrchu ac mae ganddynt safle ymchwil a datblygu a chynhyrchu ym Mharc Busnes Roseheyworth ac mae'n allforio ei gynnyrch yn fyd-eang. 

Lansiodd y busnes yn 2003 pan welodd y peiriannydd Huw Durban raglen ddogfen ar ddiffyg glanweithdra ac arferion glanhau gwael mewn ysbytai. Datblygodd ychwanegyn ar gyfer menig rwber oedd yn lladd bacteria.   

"Profodd ychwanegu'r deunydd at y cynnyrch yn hytrach na rhoi haen ddiogelu arno yn syniad gwych," meddai Huw. Lansiodd ef a Nick Corlett y busnes yng Nghanolfan Arloesedd UK Steel Enterprise yng Nglynebwy ac mae cynnyrch SteriTouch bellach i'w cael mewn paent, cwpanau babanod a llu o ddefnyddiau eraill.      

Derbyniodd y cwmni grant Kickstart o £2000 a dywed Huw fod hynny'n hollbwysig wrth sefydlu'r busnes.   

Mae SRS Valeting yn seiliedig yn Nhredegar ac mae wedi creu 19 o swyddi. Mae'r cwmni'n cydweithio gyda gwerthwyr ceir eraill yn gweithio ar eu safleoedd yn ogystal ag yn eu safle eu hunain, ac mae'n dymuno ehangu ei weithgareddau. 
 
Derbyniodd SRS grant o £2134 yn 2011 a dywed y perchennog Sean Seaward y bu hynny'n hollbwysig i alluogi'r sefydliad i gychwyn arni. "Fe wnaethom ei ddefnyddio i brynu hanfodion y busnes - glanhawyr sugno, golchwyr jet a pholisïau. Roedd y grant yn ddefnyddiol iawn a bu o help mawr i ni. 

"Fe wnaethom ddechrau'n fach ac rydym yn tyfu'n awr ac eisiau tyfu mwy."    

Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr Cymru UK Steel Enterprise: "Mae cyllid sbarduno o'r math hwn yn hollol hanfodol i'r economi. Hebddo, efallai na fyddai busnesau gyda'r gallu i dyfu a chreu swyddi byth wedi cael eu darganfod a byddid wedi colli eu potensial."   

Ac nid dim ond y cymorth ariannol ei hunan oedd yn allweddol i lwyddiant y cynllun. "Yn aml mor bwysig â'r arian y gwnaethant ei dderbyn yw'r bleidlais o hyder yn y syniad busnes a'r teimlad fod y gefnogaeth ganddyn nhw," ychwanegodd.   

 Mae'r rhestr o fusnesau a gafodd help drwy gynllun Kickstart i ddechrau arni yn hir ac amrywiol a chaiff y rhan fwyaf o fathau o fusnesau eu hystyried cyn belled â'u bod yn cyflawni meini prawf y cynllun. Nid oes fawr iawn o ffurflenni a gwiath papur ffurfiol ac mae'r broses mor syml ag y bu modd i ni ei gwneud."  

Un o'r busnesau cyntaf a lansiwyd oedd yr hyfforddwr tenis Chris Hill, un o brif gyn-chwaraewyr Cymru a ffigur amlwg yn y gêm. Agorodd The Warehouse ym Mrynmawr, LMC Tiles yn Nhredegar a The Olde Sweet Shoppe yn Abertyleri eu drysau. Ers dechrau cynllun Kick Start yn 2001, mae wedi cefnogi 185 o fusnesau newydd a chreu 262 o swyddi ym Mlaenau Gwent.   
  
Mae Uned Datblygu Economaidd Busnes Blaenau Gwent yn rhoi cymorth a chefnogaeth mewn nifer o feysydd ac mewn un lleoliad i fusnesau newydd a hefyd fusnesau presennol. 

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cefnogaeth menter drwy gynllun BG EFFECT, cymorth grant busnes drwy Kickstart, cefnogaeth sgiliau cyflogaeth ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion a rheolaeth eiddo/uned. 

I gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth neu i holi am y gwasanaethau cymorth busnes sydd ar gael ewch i www.blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio  01495 355700 neu e-bost business.services@blaenau-gwent.gov.uk