Hyb Busnes Blaenau Gwent

Mae’r Hyb Busnes yn llwyfan digidol newydd deallus, yn galluogi busnesau lleol ac egin fusnesau i gael mynediad i gymorth busnes, rhwydweithio, cysylltu â’I gilydd a darganfod cyfleoedd lleol.
Proffilio eich cwmni a’i wasanaethau a rhyngweithio gydag aelodau eraill yr Hyb.


Rhyngweithio gyda busnesau lleol sy’n aelodau’r Hyb drwy’r Hysbysfwrdd (aelodau cofrestredig).
Canfod Digwyddiadau busnes lleol a chofrestru drwy’r Hyb.
Chwilio am safleoedd a thir yn defnyddio’r swyddogaeth Chwilio Eiddo.
Chwilio ar-lein am gyflenwyr lleol yn defnyddio’r Cyfeiriadur Busnes.
Y Newyddion a’r wybodaeth fusnes leol ddiweddaraf.
Mynediad i sefydliadau Cymorth Busnes drwy’r porth Cymorth.
Cyngor am ddim gan arbenigwyr drwy ein hardal Mentora (aelodau cofrestredig).

I gofrestru eich busnes ac ymuno yng nghymuned fusnes Blaenau Gwent ewch i

www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 neu business@blaenau-gwent.gov.uk

Hyb Busnes Blaenau Gwent