Hoffem gael eich barn

Ymgynghoriad ar Gynllun Dyrannu Tai Blaenau Gwent 2019

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'God Arweiniad' ar gyfer awdurdodau lleol ar ddyrannu llety a digartrefedd. Mae'r cod yn rhoi arweiniad y mae'n rhaid i awdurdodau lleol yn gyfreithiol roi ystyriaeth iddo wrth weithredu eu swyddogaethau mewn cysylltiad â dyraniadau tai a datblygu a gweithredu cynllun dyrannu tai. Mae'r Cod yn cynghori awdurdodau lleol i adolygu eu cynlluniau dyrannu tai bob dwy flynedd i sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gyfraith ac arfer da.

Gan nad yw Cynllun Dyrannu Tai Blaenau Gwent wedi ei adolygu ers 2017 cyn ei weithredu, mae'n awr yn adeg ei adolygu yn unol â'r canllawiau deddfwriaethol.

Felly, caiff y newidiadau a gynigir i'r cynllun presennol yn dilyn yr adolygiad hwn eu crynhoi yn y dogfen a atodir a hoffem gael eich barn ar y cynigion hyn.  Byddem yn arbennig yn hoffi eich sylwadau ar p'un ai yw'n debygol y byddai'r newidiadau a gynigir yn cael effaith negyddol ar unrhyw grwpiau neilltuol o bobl. Dywedwch eich barn drwy lenwi'r arolwg ar-lein.

Cymraeg: https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=157000733737

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 29 Hydref 2019.

Defnyddir eich atebion i'r cwestiynau yn yr arolwg i helpu llunio'r newidiadau a chânt eu trin yn gyfrinachol. Rhagwelir y cyflwynir y Cynllun Dyrannu Tai newydd ym mis Ebrill 2020 yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

Os byddai'n well gennych gwblhau ymateb ar bapur neu os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol, or hoffwn gael copïau llawn o'r polisïau dyrannu cyfredol ac arfaethedig, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch (01495) 354600 neu e-bost housing@blaenau-gwent.gov.uk os gwelwch yn dda.

Hoffem ddiolch ymlaen llaw i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Polisi Dyrannu Cartrefi Blaenau Gwent – Crynodeb Newidiadau