Hen ac ifanc yn ffurfio cysylltiadau

Mae Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn fwy na dim ond ysgol, mae'n rhan enfawr o'r gymuned yn Rasa, Glynebwy meddai Keri Smith, Pennaeth yr ysgol.

Ers iddi ddod i'r ysgol ddwy flynedd yn ôl mae Ms Smith wedi gweithio'n galed iawn i godi safonau addysg a hefyd i integreiddio'r ysgol gyda'r gymuned leol a gweithio gyda theuluoedd cyfan ac nid dim ond y disgyblion.

Cafodd yr holl ysgol yn awr ei hyfforddi i fod yn 'gyfeillgar i dementia' ac mae yn y broses o adeiladu gardd gyfeillgar i dementia. Mae disgyblion wedi ffurfio cysylltiadau gyda phreswylwyr cartref gofal cyfagos, Bank House, ac maent yn cyfathrebu drwy gynllun cyfeillion drwy'r post ac mae plant oed meithrin yn cael sesiwn chwarae yno bob wythnos. Mae'r ysgol hefyd yn y broses o sefydlu côr rhyng-genhedlaeth a gweithio ar brosiect lle byddant yn helpu pobl hŷn i ddefnyddio technoleg fodern.


Yn ystod gwyliau'r ysgol mae'r ysgol yn cymryd rhan mewn cynlluniau Fit & Fed a SHEP ('Summer Holidays Enrichment Programme') i helpu disgyblion a rhieni i gadw'n heini ac iach.

Caiff rhieni eu hannog i ymwneud â'r ysgol a chânt eu gwahodd ar gyfer gwasanaethau dosbarth gyda phwyslais ar ddathlu a dysgu am wahanol ddiwylliannau disgyblion. Mae hefyd grwpiau cefnogaeth ar gyfer rhieni plant gydag anghenion ychwanegol neu sydd â Saesneg fel ail iaith iddynt.

Mae Ms Smith hefyd yn cynnig safle'r ysgol yn rhad ac am ddim ar gyfer grwpiau mam a phlentyn, caffe stori ac amrywiaeth o sesiynau ffitrwydd a chwaraeon.

Dywedodd Ms Smith:

"Ysgol fach ydyn ni ar hyn o bryd, ond rydym yn ysgol wirioneddol wych a byddem wrth ein bodd yn cynyddu nifer y disgyblion. Rydym yn gweithio'n agos ac yn effeithlon gyda'n teuluoedd a byddwn wrth fy modd i bobl, yn arbennig ddarpar rieni, weld y gwaith gwych a gwrth chweil a wnawn yma.
"Rydym yn gwella safonau addysg ond er bod gwaith ysgol yn bwysig, rydym hefyd yn gwneud cynnydd sylweddol wrth weithio gyda'n disgyblion a'u teuluoedd i gadw pobl yn hapus ac iach ac yn gwneud yr hyn a fedrwn i roi dechrau da i blant ar gyfer gweddill eu bywydau.
"Rydym newydd lansio ein hashnod #ProudToBe RYF, a rydym eisiau i bawb sy'n ymwneud â'r ysgol ei ddefnyddio er mwyn cyfleu yn union pa mor arbennig yw'r ysgol."

Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent:


"Yr wythnos hon dywedodd Estyn pa mor bwysig yw hi i ysgolion ganolbwyntio ar iechyd a llesiant disgyblion a sut y gall athrawon helpu i feithrin a pharatoi plant a phobl ifanc ar gyfer eu dyfodol. Mae Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn bendant yn gwneud yn union hynny gyda'i gwelliannau academaidd a ffocws cryf ar lesiant. Hoffwn ddiolch i'r ysgol am ei hymrwymiad i lesiant, cysylltiadau gyda'r gymuned a chynyddu uchelgais plant lleol a'u teuluoedd. Fel awdurdod lleol rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda arweinwyr ac athrawon yr ysgol i'w cefnogi ar y daith."

Y Cyng Gareth Davies, aelod ward Rasa, yw Cadeirydd y Corff Llywodraethu ac mae'n ymweld â'r ysgol yn gyson. Mae'n llawn canmoliaeth am y staff a'i disgyblion. Dywedodd:

"Efallai mai ysgol fach yw Rhos-y-Fedwen o ran nifer disgyblion, ond mae gennym uchelgais fawr i godi safonau addysg, gyda ffocws cryf ar wella iechyd a llesiant myfyrwyr a rhieni fel ei gilydd tra'n ehangu ymwybyddiaeth plant o amrywiaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd. Mae gennym nifer o brosiectau gwych i gyflawni hyn a hoffwn annog darpar rieni i ddod draw ac edrych ar yr ysgol."

Angela Carr yw Rheolwr Cartref Gofal Bank House. Dywedodd:

"Mae ein partneriaeth gydag Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn un o'r pethau gorau sydd wedi digwydd i ni yma yn Bank House. Mae'n uchafbwynt yr wythnos, mae'n preswylwyr a'r plant fel ei gilydd wrth eu boddau! Mae'r plant meithrin yn dod yma i wneud gweithgareddau crefft gyda'r preswylwyr neu gwnawn gemau neu ganu. Cawsom hyd yn oed helfa wy Pasg! Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn ysgrifennu at breswylwyr ac maen nhw'n ysgrifennu'n ôl gyda help ein myfyrwyr lleoliad gwaith. Mae'n waith rhyng-genhedlaeth gwych. Mae'r ysgol a'r plant yn fendigedig a gobeithiwn y bydd y bartneriaeth yn parhau."