Helpwch ni i wneud Blaenau Gwent yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Rydym yn dechrau cynllunio ar gyfer dyfodol Blaenau Gwent. Rydym eisiau gwybod sut ardal y dymunwch iddi fod yn y dyfodol er mwyn sicrhau y gall pawb fyw'n dda a mwynhau eu bywydau. Yna byddwn yn ceisio gwneud iddo ddigwydd!

Rydym angen eich help i wneud hyn!

Rydym eisiau i chi, eich teulu a'ch ffrindiau ddweud wrthym beth ydych yn ei hoffi am Flaenau Gwent, beth sy'n bwysig i chi a sut y gallwn wneud Blaenau Gwent yn lle gwell ar gyfer cenedleathau'r dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan dewch draw i un o'n stondinau sydyn yn y mannau dilynol:

  • Canolfan Siopa Tredegar - 10:00 i 14:00, dydd Gwener 9 Medi 2016
  • Marchnad Glynebwy - 10.00 i 14:00, dydd Gwener 16 Medi 2016
  • Marchnad Brynmawr - 10:00 i 13:00, dydd Sadwrn 17 Medi 2016
  • Marchnad Abertyleri - 10:00 i 14:00, dydd Iau 22 Medi 2016

Neu, cliciwch yma i gymryd rhan ar-lein