Gŵyl y Banc Pasg 2025

Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Iau 17 Ebrill 2025 a bydd yn ailagor am 8am ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025.

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau ar y rhif arferol, 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. 

Bydd y gwasanaeth Larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch larymau llinell fywyd Piper y tu allan i oriau swyddfa i 0300 0035367.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 5pm ddydd Iau, 17 Ebrill 2025 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025. Yn ystod cyfnod y Pasg, cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Brys ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Taliadau a Budd-daliadau
Os ydych yn dymuno gwneud taliad, mae llinell dalu awtomataidd 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/hafan/

Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gan gynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Rhowch eich gwastraff a’ch ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu. Cofiwch dorri unrhyw eitemau cardbord mawr yn ddarnau llai cyn iddynt gael eu casglu.
Bydd Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer. 

Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Gwener 18 Ebrill a dydd Llun 21 Ebrill 2025. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025 drwy apwyntiad yn unig.

Hybiau Cymunedol
Bydd Hybiau Cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd canol tref ar gau ddydd Gwener 18 Ebrill a dydd Llun 21 Ebrill 2025. Maent yn ailagor fel arfer ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025 - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus!