
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5yp ddydd Gwener 28 Awst 2026 a bydd yn ailagor am 8yb ddydd Mawrth 1 Medi 2026.
Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau ar y rhif arferol, 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd y gwasanaeth Larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch larymau llinell fywyd Piper y tu allan i oriau swyddfa i 0330 678 1097.
Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 5yp ddydd Gwener, 28 Awst 2026 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 1 Medi 2026. Yn ystod cyfnod y Pasg, cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Brys ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.
Taliadau a Budd-daliadau
Os ydych yn dymuno gwneud taliad, mae llinell dalu awtomataidd 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/hafan/
Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gan gynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Rhowch eich gwastraff a’ch ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu. Cofiwch dorri unrhyw eitemau cardbord mawr yn ddarnau llai cyn iddynt gael eu casglu.
Bydd Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer.
Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 31 Awst 2026. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 1 Medi 2026 drwy apwyntiad yn unig.
Hybiau Cymunedol
Bydd Hybiau Cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd canol tref ar gau dydd Llun 31 Awst 2026. Maent yn ailagor fel arfer ddydd Mawrth 1 Medi 2026 - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/