Gŵyl Banc y Gwanwyn Trefniadau Gwasanaeth

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Gwener, 24 Mai 2024 a bydd yn ailagor am 8am ddydd Mawrth 28 Mai 2024. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau ar y rhif arferol, sef 01495 311556, yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y gwasanaeth Larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch larymau llinell fywyd Piper y tu allan i oriau swyddfa at 0300 0035367.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 5pm ddydd Gwener, 24 Mai 2024 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 28 Mai 2024. Yn ystod cyfnod y Pasg, cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Brys ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Taliadau a Budd-daliadau

Os ydych yn dymuno gwneud taliad, mae llinell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/hafan/

Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gan gynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Rhowch eich gwastraff a’ch ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn torri unrhyw eitemau cardbord mawr yn ddarnau llai cyn eu casglu.
Bydd Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref ar agor yn ôl yr arfer. 

Gwasanaeth Cofrestru

Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 27 Mai 2024. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 28 Mai 2024 drwy apwyntiad yn unig.


Hybiau Cymunedol

Bydd Hybiau Cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd canol tref ar gau ddydd Llun, 27 Mai 2024. Maent yn ailagor fel arfer ddydd Mawrth, 28 Mai - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/