Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Gwener 22 Awst 2025 ac yn ail-agor ddydd Mawrth 26 Awst 2025.
Gellir cysylltu â’r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.
Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 4.30pm ddydd Gwener 22 Awst 2025 ac yn ail-agor am 9am ddydd Mawrth 26 Awst 2025. Yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.
Taliadau a Budd-daliadau
Os dymunwch wneud taliad, mae llinell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan - Blaenau Gwent County Borough Council - Online Services
Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yn cynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel y maent fel arfer. Gofynnir i chi roi eich gwastraff ac ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar ddyddiad y casgliad.
Torrwch unrhyw eitemau cardfwrdd mawr yn ddarnau llai cyn iddynt gael eu casglu os gwelwch yn dda.
Bydd Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu ar agor fel y maent fel arfer.
Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 26 Aest 2025 drwy apwyntiad yn unig.
Hybiau Cymunedol
Bydd Hybiau Cymunedol sydd mewn llyfrgelloedd yng nghanol trefi yn cau am 5pm ddydd Gwener 22 Awst 2025 ac yn ailagor fel y maent fel arfer arfer am 9am ddydd Mawrth 26 Awst 2025 -
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/