Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2019

Canlyniad rhagorol i Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel Blaenau Gwent

Enillodd Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel Blaenau Gwent wobr 'Cyflogwr Mawr y Flwyddyn' yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2019 a gynhaliwyd yn y Ganolfan Confensiynau Rhyngwladol, Casnewydd ar 24 Hydref. Mae'r categori gwobr 'Cyflogwr Mawr a Macro y Flwyddyn' yn cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad y cyflogwr i ddatblygu eu gweithlu drwy brentisiaethau, tra hefyd yn cefnogi eu gweithwyr cyflogedig yn ystod hyfforddiant.

Mae cyrraedd y rownd derfynol yn gamp ragorol gan fod cynifer o sefydliadau mawr yn cystadlu am wobr mor bwysig. Roedd y cystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynnwys Grŵp Bancio Lloyds, British Airways, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Legal & General Investments. Gwyddai'r tîm Anelu'n Uchel eu bod wedi gwneud yn eithriadol o dda dim ond i gyrraedd y camau terfynol, felly roedd ennill yn fwy nag a ddisgwyliai neb. Mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn arddangos rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau ledled Cymru ac yn dathlu llwyddiant rhagorol dysgwyr a chyflogwyr - cafodd Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel ei chydnabod am ei hymroddiad eithriadol, cofnod cyflogaeth prentisiaid a'u gallu i weithio gyda phartneriaid allweddol megis Coleg y Cymoedd a chwmnïau lleol. Cyflawnwyd hyn drwy gydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Parth Menter Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Wedi'i sefydlu yn 2015, mae'r tîm o bump yn arbenigo mewn darparu prentisiaid i fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg Blaenau Gwent. Hyd yma, mae ganddynt record ragorol o 100% o'r prentisiaid yn cael eu cyflogi ar ddiwedd eu rhaglen.

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol:

 Mae hyn yn gamp wych i dim Anelu'n Uchel a hefyd ein prentisiaid a'r cyflogwyr sy'n gweithio gyda nhw. Mae'n gydnabyddiaeth o'r holl waith caled a gafodd ei roi yn y Rhaglen Rhannu Prentisiaeth, sy'n awr wedi ennill gwobr”. 

Ychwanegodd y Cynghorydd David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

Rwyf mor falch o'r hyn a gyflawnodd Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel, yn arbennig gan fod safon yr ymgeiswyr yn eu categori yn eithriadol. Mae datblygu pobl sgilgar yn hanfodol. ar gyfer ein heconomi ac mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn rhoi llwyfan delfrydol i arddangos y cyflogwyr, prentisiaid a darparwyr hyfforddiant gorau o bob rhan o Gymru".

Caiff Gwobrau Prentisiaeth Cymru eu trefnu ar y cyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru a thrwy banel nodedig o feirniaid daethpwyd ynghyd â 34 o ymgeiswyr haeddiannol o bob rhan o Gymru.

Llun - Tara Lane, Rheolwr Datblygu Sgiliau, a chynrychiolwyr o Anelu'n Uchel Blaenau Gwent yn derbyn Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn gan Diane Block, rheolwr rhanbarthol y noddwr Babcock International Group.

O'r chwith i'r dde: Graham Rees (Mentor Anelu'n Uchel), Diane Block (Babcock International Group), Tara Lane (Rheolwr Datblygu Sgiliau), Alison Hodgins (Cymorth Busnes Anelu'n Uchel) ac Andrew Bevan (Cydlynydd Rhaglen Anelu'n Uchel).