Gwobr ar gyfer Athrawon a Disgyblion sy’n Ymwneud â Phrosiectau cyffrous yn Ysgol Gynradd Deighton

Blue Flash
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Deighton wedi bod yn gweithio'n galed yn adeiladu car gwaith arloesol i ddatblygu eu sgiliau peirianneg a dylunio. Wedi’i enwi’n Blue Flash ar ôl eu gwisgoedd glas, adeiladwyd y car modur trydan gyda cit o Greenpower, prosiect sy'n anelu at ysbrydoli plant 9-11 oed i gymryd diddordeb mewn peirianneg mewn ffordd hwyliog a blaengar. Noddwyd yr adeiladu gan Ron Skinner a helpodd i ariannu'r prosiect yn ogystal â darparu mecanig a helpodd y plant i adeiladu'r car.

Wrth adeiladu'r car, dysgodd y plant am ffrithiant, trydan, deunyddiau, TGCh, Mathemateg a dylunio a thechnoleg.  Bydd y myfyrwyr yn rasio’r car mewn digwyddiad a drefnwyd gan Greenpower ym Mharc Busnes Meisgyn ar Ddydd Sadwrn 24ain o Fehefin.

Meddai'r pennaeth, Mike Gough:

"Mae'n wych gweld beth gall y plant ei wneud pan fyddant yn cael y cyfle. Mae gweld y disgyblion yn adeiladu’r car a gweld y cyffro yn y plant pan fyddant yn darganfod yr hyn y maent yn gallu ei wneud yn heintus. Mae eu hymddygiad a'u presenoldeb wedi gwella ers cymryd rhan yn y prosiect hwn ac mae'r sgiliau eraill y maent wedi'u datblygu wedi cael eu hamlygu yn yr ystafell ddosbarth. "

Athro/Athrawes y Flwyddyn
Mae Lynsey Wangiel wedi ennill Gwobr Addysgu Proffesiynol Cymru. Mae'r wobr bwysig hon yn ei blwyddyn gyntaf ac fe'i chyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru i gydnabod y gorau mewn ysgolion ledled y wlad ac i ddathlu ymrwymiad, ymroddiad ac ysbrydoliaeth y proffesiwn addysgu yng Nghymru. Cyflwynwyd Lynsey Wangiel gyda gwobr arbennig Griffith Jones mewn digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Sul 7fed o Fai.  Mae Lynsey Wangiel, brodor o Dredegar, yn dysgu blynyddoedd 1 a 2 a hi yw'r dirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Deighton.

Dywedodd Lynsey:

"Rwyf wrth fy modd ar lefel bersonol i ennill y wobr hon.  Mae Ysgol Gynradd Deighton yn lle mor arbennig gyda bechgyn a merched arbennig ac mae'r wobr hon yn adlewyrchu gwaith caled pawb yn yr ysgol. Mae yna gymaint o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd yn Deighton ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â'n gwaith a gwella safonau ar gyfer ein plant. Mae'r wobr wedi bod yn dda i mi, yn bersonol, ond hefyd ar gyfer yr ysgol, y dref a Blaenau Gwent. "

Rhandiroedd Cymunedol

Mae'r ysgol hefyd yn gweithio gyda'r gymuned leol ac wedi agor ei rhandir cymunedol yn swyddogol. Crëwyd y rhandir gan Gyfeillion Deighton gyda'r bwriad o greu rhywbeth y gall pawb gymryd rhan ynddo, o’r plant iau sy'n gallu helpu dyfrio’r planhigion, i'r plant hŷn a fydd yn creu tŷ gwydr potel sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Bydd grwpiau ar ôl ysgol hefyd yn cyfrannu. Mae hyd yn oed gwelyau wedi’u codi fel y gall myfyrwyr mewn cadeiriau olwyn gymryd rhan mewn tyfu llysiau

Dywedodd llefarydd ar ran Deighton:

"Mae tyfu llysiau yn. ffordd wych i ddysgu plant am fyd natur, ac maent wrth eu bodd. Mae'r rhandir hwn wedi’i greu i bawb ei fwynhau ac wrth i'r tymhorau fynd heibio ni’n methu aros yn llythrennol i fwynhau ffrwyth ein llafur. "