Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ddweud eich barn ar 12 Rhagfyr

Dyddiadau allweddol i bleidleiswyr:

  • Mae'n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio erbyn 26 Tachwedd 2019
  • Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais post yw 26 Tachwedd 2019
  • Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais ddirprwy yw 4 Rhagfyr

Os rhagwelwch unrhyw anawsterau yn mynychu'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad am unrhyw reswm, yn cynnwys y posibilrwydd o dywydd garw, gallech wneud cais am bleidlais post neu bleidlais ddirprwy, ond mae'r amserlen yn dyn felly dylech anfon eich ceisiadau i mewn cyn gynted ag sy'n bosibl.

Ar Ddiwrnod yr Etholiad

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm, felly cynlluniwch nawr pryd y byddwch yn bwrw eich pleidlais. Bydd gwybodaeth ar sut i farcio eich papur pleidleisio ar gael yn yr orsaf bleidleisio.

Dyma restr o'r hyn y dylech ei wybod cyn y diwrnod pleidleisio:

Gwneud yn siŵr eich bod yn pleidleisio ar amser

  • Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 12 Rhagfyr. Mae'n rhaid i chi wneud cais i gofrestru i bleidleisio erbyn canol nos ar 26 Tachedd er mwyn medru pleidleisio ar 12 Rhagfyr .
  • Bydd eich cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon i'r cyfeiriad lle'r ydych wedi cofrestru. Bydd yn dweud ble mae eich gorsaf bleidleisio. Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio y medrwch fwrw eich pleidlais. 
  • Meddwl am pryd y gallwch fwrw eich pleidlais yn yr orsaf bleidleisio, gan adael digon o amser cyn y dyddiad cau o 10pm.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor:  https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/voting-elections/parliamentary-election-thursday-12-december-2019/