Mae pedwar gwirfoddolwr hirsefydlog, ymroddedig, a gwerthfawr iawn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid wedi cael eu hargymell ar gyfer, ac wedi ennill, gwobrau Uchel Siryf Gwent.
Mae'r pedwar gwirfoddolwr, sef John Hooper, Julie Thomas, Lesley John, a Natalie Sargent, yn parhau i wirfoddoli i’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, a hefyd yn cyflenwi ar gyfer rolau hanfodol eraill, nid yn unig i gynorthwyo gyda darpariaeth y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, ond hefyd gyda helpu plant a theuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.
Mae John Hooper wedi bod yn Wirfoddolwr Cymunedol yn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid am 20 mlynedd. Mae'n ymgymryd â rolau hanfodol, gan gynnwys bod yn aelod o'r Panel Gwarediad y Tu Allan i'r Llys a'r PanelGorchmynion Atgyfeirio Statudol, cynorthwyo yn y broses recriwtio gwirfoddolwyr newydd gan gynnwys elfennau o'r rhaglen hyfforddiant. Hefyd, mae’n a mynychu digwyddiadau datblygu’r gwasanaeth cyfan i gynrychioli Gwirfoddolwyr Cymunedol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a chynorthwyo'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid gyda darparu rhaglenni ymyrryd amlasiantaeth.
Mae Julie Thomas wedi bod yn Wirfoddolwr Cymunedol yn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid am 15 mlynedd. Mae'n cyflawni'r rôl hanfodol o fynychu'r Panel Gorchmynion Atgyfeirio Statudol, yn ogystal â mynychu digwyddiadau datblygu’r gwasanaeth cyfan i gynrychioli'r Gwirfoddolwyr Cymunedol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a chynorthwyo'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid gyda darparu rhaglenni ymyrryd amlasiantaeth.
Mae Lesley Jones wedi bod yn Wirfoddolwr Cymunedol yn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid am 12 mlynedd. Mae rôl Lesley hefyd yn cynnwys mynychu'r Panel Gorchmynion Atgyfeirio Statudol, a digwyddiadau datblygu’r gwasanaeth cyfan.
Mae Natalie Sargent wedi bod yn Wirfoddolwr Cymunedol yn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid am 10 mlynedd. Mae hi hefyd yn mynychu'r Panel Gorchmynion Atgyfeirio Statudol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Cafodd y pedwar gwirfoddolwr eu henwebu oherwydd eu hymroddiad i ymgysylltu â phlant a theuluoedd gyda dull ar sail cryfderau, gan ddangos tosturi, empathi a thegwch, i gyd wrth sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed. Maen nhw i gyd yn cael eu hystyried i fod yn gydraddol ag aelodau staff y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ac maen nhw'n aelodau mawr eu hangen o'r gweithlu.
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Cabinet dros Bobl a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Rydyn ni’n falch iawn bod y gwirfoddolwyr hyn yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad hirsefydlog i'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid."