Gwelliannau effeithiolrwydd ynni am ddim i gartrefi

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio gyda chwmnïau cyfleustodau i gynnig gwelliannau effeithiolrwydd ynni am ddim i'r cartrefi gyda'r graddiad isel yn y fwrdeistref sirol.

Bydd y Cynllun Gwella Effeithiolrwydd Ynni yn rhoi cyfle awtomatig i gartrefi gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni graddiad F neu G wneud cais am gyllid i wella perfformiad ynni a chadw gwres yr annedd. Gall anheddau gradd E hefyd fod yn gymwys os oes unrhyw un yn y cartref dros 65 oed, dan 5 oed neu gyda salwch penodol cymwys.

Os ydynt yn llwyddiannus, caiff cynllun gwella cartref pwrpasol ei baratoi ar gyfer ymgeiswyr a allai gynnwys gwelliannau i'r system gwres canolog, insiwleiddio newydd neu fesurau eraill i arbed ynni.

Bydd y cynllun ar gael i anheddau perchen-breswylwyr preifat ac anheddau gyda thenantiaid.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Mae hwn yn gynllun gwych lle byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gwmnïau ynni i fynd i'r afael â phroblem cartrefi nad ydynt yn effeithiol o ran ynni. Nod y cynllun yw gwneud yn siŵr fod pobl yn byw mewn cartrefi effeithiol a gaiff eu twymo'n iawn, a bydd yn helpu i ostwng nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd."

Bydd y Cyngor yn gysylltu â'r holl gartrefi gradd F a G sy'n gymwys ar gyfer y cynllun a hefyd yn hysbysebu'r cynllun ar ei wefan a'r cyfryngau cymdeithasol, gan roi manylion llawn i bobl am sut i wneud cais.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais edrychwch ar -

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/iechyd-yr-amgylchedd/llygredd/cymhwyster-hyblyg-awdurdodau-lleol/