Gweld Lle Tynnu Llun Anfon

Mae'n gyflym ac yn rhwydd cyflwyno adroddiadau a cheisiadau, gan fod yr ap symudol yn galluogi preswylwyr i gysylltu â'r Cyngor drwy eu dyfeisiau llechi, ffonau clyfar a chyfrifiaduron personol.

Ychwanegwyd mwy a mwy o wasanaethau ers y llynedd; o wneud cais am ostyngiadau mewn Treth Gyngor, gofyn am dderbynyddion gwastraff ac ailgylchu a rhoi adroddiad am bethau fel baw cŵn a thipio anghyfreithlon.

Gall defnyddwyr lawrlwytho ffotograffau a fideos, defnyddio mapiau i ddangos lleoliad, a drwy gofrestru ychydig o manylion, gallant hefyd gael adborth ac olrhain eu cais wrth i'r cyngor ei brosesu.

Mae ap Blaenau Gwent yn rhoi mynediad cyflym a rhwydd i wybodaeth am eich cynghorwyr lleol, yn cynnwys cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.

Drwy ddefnyddio'r ap, mae gan bobl ddewis eang o wasanaethau ar flaen eu bysedd, yn golygu y gallant gysylltu â'r cyngor unrhyw bryd ac unrhyw le a rhoi'r union wybodaeth mae'r Cyngor ei hangen i gwblhau'r gwaith yn gyflym ac yn rhwydd.

Mae ap Blaenau Gwent ar gael am ddim drwy storau ar-lein Android, iTunes a Windows. Lawrlwythwch ef yn awr a gweld pha mor rhwydd yw hi yw rhoi adroddiad, gofyn am neu wneud cais am wasanaethau gan eich Cyngor lleol.