Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Blaenau Gwent heddiw, cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i gabinet, pwyllgorau a chyrff allanol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Penodwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol a bydd yn cadeirio cyfarfodydd y Cyngor, gyda’r Cynghorydd David Wilkshire wedi’i benodi’n Ddirprwy Aelod Llywyddol.
Ail-etholwyd y Cynghorydd Steve Thomas yn Arweinydd y Cyngor a bydd ganddo gyfrifoldeb hefyd am Adnoddau Corfforaethol.
Ail-etholwyd y Cynghorydd Tommy Smith yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio ar gyfer Cymdogaethau a’r Amgylchedd.
Dyma restr lawn o benodiadau'r Cabinet:
- Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol – Y Cynghorydd Steve Thomas
- Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdogaethau a’r Amgylchedd – Y Cynghorydd Tommy Smith
- Aelod Cabinet Economi a Lleoedd – Y Cynghorydd John Morgan
- Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Sue Edmunds
- Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau – Y Cynghorydd Jules Gardner
Penodwyd y Cadeiryddion canlynol i'r Pwyllgorau Craffu:
- Oedolion, Cymunedau a Llesiant – Y Cynghorydd Haydn Trollope (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)
- Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Derrick Bevan (Is-gadeirydd)
- Datblygu Economaidd a Rheoli Amgylcheddol – Y Cynghorydd Jacqueline Thomas (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Lisa Winnett (Is-gadeirydd)
- Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau – Y Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Dean Woods (Is-gadeirydd)
Penodwyd aelodau hefyd i gadeirio'r pwyllgorau statudol canlynol:
- Pwyllgor Cynllunio – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
- Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cynghorydd John Hill (Cadeirydd) / Y Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)
Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Steve Thomas:
“Mae’n fraint parhau i wasanaethu pobl Blaenau Gwent fel Arweinydd eto eleni. Hoffwn ddiolch i’n holl staff am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf, yn aml o dan lawer o bwysau. Hoffwn hefyd ddiolch i gynghorwyr ar draws y siambr am eu her adeiladol ac am gydweithio er budd gorau ein cymunedau.
“Rydym yn parhau i wneud cynnydd da gyda’n trefniadau Ffederasiwn gyda Chyngor Torfaen, gan gryfhau gwydnwch, gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac edrych ymlaen gyda gweledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer ein hardaloedd. Bydd ‘Y Fargen’ Blaenau Gwent, ein ffordd newydd esblygol o weithio gyda chymunedau, yn dod yn rhan o sut rydym yn gweithio bob dydd, gan bartneru â phobl leol a harneisio eu cryfderau i gydweithio ar ddyfodol tecach i bawb.
“Mae llywodraeth leol yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Eleni roeddem yn falch o gytuno ar gyllideb sy’n parhau i ganolbwyntio ar y gwasanaethau rheng flaen allweddol sy’n bwysig, fel Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, a gwasanaethau amgylcheddol fel priffyrdd a gwydnwch rhag llifogydd, a byddwn yn parhau i gynllunio a buddsoddi’n ofalus ar gyfer y dyfodol.”
Gwnaeth y cyngor enwebiadau hefyd i gyrff allanol gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Cynghorydd Peter Baldwin); Heddlu Gwent (Y Cynghorydd Diane Rowberry a'r Cynghorydd Malcolm Day) a Bwrdd Tai Cymunedol Tai Calon (Y Cynghorydd Jen Morgan a'r Cynghorydd Ellen Jones).
