Gwasanaeth Rheoli Pla Domestig Blaenau Gwent ar gael

Mae llawer o fanteision o ddefnyddio'r gwasanaeth yma yn cynnwys:
• Defnydd diogel o blaleiddiaid drwy ddefnyddio cwmni proffesiynol
• Dynodi diffygion strwythurol posibl a allai achosi heigiad
• Gwasanaeth am ddim
• Symud plaleiddiaid unwaith y cwblhawyd triniaeth heigiad

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng dydd Llun a dydd Gwener rhwng 8.30am a 5pm. Nid yw'r gwasanaeth yn gweithredu ar wyliau cyhoeddus.

I drefnu ymweliad rheoli pla gan Mitie, cysylltwch â:
Ffôn - 0344 335 0330
E-bost - l- mpc.gwent@mitie.com

Mae Mitie Pest Control hefyd yn cynnig triniaethau rheoli pla arall ar gyfer Blaenau Gwent gan godi tâl amdanynt. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

• Llygod bach          £57.60
• Pycs            £57.60
• Chwilod da      £57.60
• Chwain            £57.60
• Morgrug gardd du         £57.60
• Pryfed clwstwr       £57.60
• Criciaid tŷ, pryfed y popty a phryfed arian   £57.60
• Gwyfynod tecstilau          £57.60
• Nythod cacwn          £48.00

Cyhyd â'u bod yn byw yn yr adeilad lle gwneir y driniaeth, bydd preswylwyr Blaenau Gwent sydd ar y budd-daliadau dilynol yn derbyn gostyngiad o 50% ar gyfer trin llygod bach, pycs, chwilod du a chwain:

• Credyd Cynhwysol
• Cymhorthdal Incwm
• Gostyngiad Treth Gyngor
• Credyd Gwaith neu Dreth Plant
• Lwfans Chwilio am Swydd (seiliedig ar incwm)

I gael mwy o wybodaeth a drefnu ymweliad rheoli pla cysylltwch yn uniongyrchol â Mitie:
• Ffôn - 0344 335 0330
• E-bost - mpc.gwent@mitie.com