Gwasanaeth Rheoli Pla

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ailgyflwyno gwasanaeth rheoli pla.

Cynigir y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth gyda Mitie, a fu'n darparu gwasanaethau rheoli pla am dros ddeugain mlynedd.

Gall cartrefi dderbyn triniaethau ar gyfer heigiadau llygod mawr yn rhad ac am ddim. Codir tâl am drin mathau eraill o bla, er enghraifft llygod bach, chwilod du, llau gwely, chwain, morgrug neu gacwn. Bydd disgownt consesiwn i 50% ar gyfer rhai ar fudd-daliadau cymwys.

Bydd y gwasanaeth rheoli pla ar gael o ddydd Llun 3 Ebrill 2017. Gofynnir i unrhyw breswylwyr sydd â diddordeb mewn derbyn gwasanaethau i gysylltu'n uniongyrchol â Mitie ar 0344 335 0330 neu drwy e-bost mpc.gwent@mitie.com