Gwasanaeth Gwastraff Swmpus - Gwneud Cais ac Archebu Ar-lein yn unig

Bydd Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent yn ailddechrau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus ar gyfer eitemau hanfodol yn cynnwys celfi tŷ a nwyddau gwyn.

Gall preswylwyr archebu casgliad o heddiw (dydd Llun 11 Mai) gyda’r gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Llun 18 Mai. Dim ond drwy wefan y Cyngor drwy Fy Ngwasanaethau y gellir gwneud cais am wasanaeth.

Dylid clicio ar y ddolen ddilynol i wneud cais, archebu a thalu am gasgliad: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/bulky-waste-collection-service/

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, Cyngor Sir Blaenau Gwent:

 “Mae’r Gwasanaeth yn ailddechrau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus ac yn gofyn i’n preswylwyr ddefnyddio ein llwyfannau ar-lein i wneud cais ac archebu’r gwasanaeth.
Mae ein Canolfan Cyswllt yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth hanfodol i aelodau mwyaf bregus y gymuned a’r rhai sydd ar y rhestr warchod drwy waith ein Timau Ymateb Rhithiol. Felly, gofynnwn i breswylwyr beidio cysylltu â ni drwy’r Ganolfan Cyswllt i ofyn am gasgliad fel y gallwn barhau i gefnogi’r gwasanaethau hyn fel blaenoriaeth.

Gofynnir i chi ddefnyddio Fy Ngwasanaethau ar wefan y Cyngor www.blaenau-gwent.gov.uk. Ni all y Ganolfan Cyswllt drefnu casgliad i chi. Os nad oes gennych fynediad i’r wefan, gofynnir i chi ofyn i berthynas neu gyfaill i drefnu casgliad ar-lein ar eich rhan.

Rydym yn ddiolchgar i breswylwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a diolch i’r rhai fu’n cadw hen eitemau o gelfi yn gyfrifol tra’n aros i’r gwasanaeth ailddechrau. Gofynnwn hefyd i breswylwyr fod yn amyneddgar wrth symud ymlaen, fel y byddwn yn mireinio’r gwasanaeth yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.”

Gellir talu am y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus yn ddiogel ar-lein. Bydd y broses ar-lein yn rhoi gwybodaeth ar pryd i roi eich gwastraff ar y palmant. Mae’n rhaid bob amser gadw dwy fetr o bellter rhwng preswylwyr a’ngweithwyr.

Mae manylion pellach ar sut i archebu casgliad, ynghyd â’r ffioedd am y gwasanaeth ar gael ar y ddolen ddilynol: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/bulky-waste-collection-service/