Gwaith yn dechrau ar ganolfan ailgylchu flaengar

Ymunodd cynghorwyr o Blaenau Gwent gyda'r contractwr Jim Davies Civil Engineering Cyf a phlant o ysgol gynradd leol ar y safle heddiw i 'dorri tir' yn swyddogol ar y datblygiad. Hwn fydd yr ail safle yn y fwrdeistref sirol a bydd yn agored i breswylwyr chwe diwrnod yr wythnos. Disgwylir y bydd yn barod erbyn mis Mehefin 2020.

Bydd y ganolfan ailgylchu flaengar newydd yn ased bwysig i bobl Blaenau Gwent. Caiff ei hadeiladu'n bwrpasol i alluogi preswylwyr i ailgylchu ac ailddefnyddio eu sbwriel yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd y safle yn darparu'r dewis llawn o wasanaethau ailgylchu i dderbyn eitemau fel soffas, nwyddau gwyn tebyg i rewgelloedd, oergelloedd a pheiriannau golchi, celfi unigol yn cynnwys byrddau, chadeiriau a chypyrddau dillad, ynghyd â charpedi ac is-garpedi.

Cynlluniwyd y ganolfan i roi mynediad rhwydd gyda ffordd fynediad hir i ddefnyddwyr y Ganolfan i osgoi aros mewn rhes ar y briffordd, yn sylweddol mwy o leoedd parcio ac mae'r cynllun yn cynnwys gofodau i'r anabl, mynediad i gerddwyr a mannau gwefru trydan ar gyfer ceir.

Darparwyd cyllid ar gyfer y datblygiad gan Lywodraeth Cymru. Cynlluniwyd y ganolfan gan dimau Gwasanaethau Technegol y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Cymunedol:

"Mae hyn yn newyddion gwych i breswylwyr a bydd yn rhoi cyfleuster modern a chyfleus iddynt i'w gwneud yn haws byth iddynt ailgylchu mwy o wastraff eu cartrefi. Mae'r buddsoddiad yn rhan o'n strategaeth gwastraff ac yn un o nifer o fesurau tymor hir gan y Cyngor i gyrraedd targedau ailgylchu cynyddol Llywodraeth Cymru. Bydd y ganolfan newydd hefyd yn cynnwys safle ailddefnyddio celfi lle gall preswylwyr gyfrannu eitemau sydd mewn cyflwr da a heb ddiffygion fel y gall rhywun arall eu prynu a'u hailddefnyddio. Rwy'n edrych ymlaen at iddo gael ei gwblhau ac ar agor i breswylwyr."

Bydd cyfleusterau signal traffig newydd ar gael ar gyffordd yr A467/Roseheyworth fel rhan o'r gwelliannau oddi ar y safle yn gysylltiedig gyda'r datblygiad newydd.

Dywedodd Joanna Wilkins, aelod ward Cwmtyleri a Chadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol:

"Mae cynyddu ailgylchu yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor er mwyn ateb targedau cenedlaethol heriol a hefyd ofalu am yr amgylchedd a'i warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fe wnaethom wahodd plant lleol i ddod draw heddiw oherwydd mae mor bwysig, fel ailgylchwyr y dyfodol, ein bod yn ennyn eu diddordeb yn llawn yn awr mewn bod eisiau chwarae eu rhan i arbed y blaned. Clywais fod disgyblion yn yr ysgol eisoes yn ailgylchwyr brwd felly da iawn nhw!

Dywedodd Jim Davies Civil Engineering Cyf:

"Ar ôl adeiladu'r safle amwynderau dinesig cyntaf i Flaenau Gwent rai blynyddoedd yn ôl rydym yn hynod falch i barhau ein cysylltiad hir gyda'r fwrdeistref ac yn edrych ymlaen at gwblhau'r cynllun ar gyfer y gymuned leol dros y misoedd nesaf. Ar ôl ymwneud â phrosiectau ailgylchu dros lawer o flynyddoedd, mae'n galonogol gweld yr Awdurdod Lleol yn weithgar wrth annog y genhedlaeth iau i ymwneud gydag ailgylchu a dymunwn lwyddiant enfawr i'r prosiect."

Mae dros 60% o weithlu Jim Davies yn byw yn ardal Blaenau Gwent a bydd y prosiect yn sicrhau cadw lefelau cyflogaeth o fewn Blaenau Gwent gyda'r cwmni, yn ogystal â chreu rhai cyfleoedd newydd. Mae nifer fawr o gwmnïau yng nghadwyn cyflenwi presennol y cwmni sy'n golygu buddion economaidd i'r ardal a bydd y cwmni yn anelu i weithio gyda'r gymuned ar brosiectau o fudd i'r ardal leol ac yn ei gwella. Mae Jim Davies hefyd wedi rhoi nawdd, cymorth a chefnogaeth ariannol i wahanol sefydliadau ac elusennau yn y fwrdeistref dros y blynyddoedd ac mae'n gobeithio parhau mewn sefyllfa i wneud hynny nawr ac yn y dyfodol.

Byddent yn croesawu cysylltiad gan unrhyw sefydliadau/grwpiau cymunedol lleol sydd angen cymorth neu gefnogaeth gyda unrhyw phrosiectau a all fod ganddynt ar y gweill yn ystod y contract.

Mae plant Campws Cynradd Heol Roseheyworth - rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri - eisoes yn ailgylchwyr brwd. Cyflwynodd Jim Davies siec am £250 iddynt heddiw i barhau â'u prosiectau amgylcheddol.