Gwaith Gwella Tomen Lo Cwmtyleri yn Cyrraedd Carreg Filltir Bwysig

Mae gwaith gwella cam cyntaf ar hen domen lo yng Nghwmtyleri wedi'i gwblhau, yn dilyn tirlithriad dinistriol yn ystod Storm Bert bron i ddwy flynedd yn ôl.

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, gan ddefnyddio cyllid trwy'r Cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo, i gyflawni'r gwaith. Sicrhaodd y cyngor gyfanswm o £1.3miliwn ar gyfer gwaith cam un a £3miliwn ar gyfer cam dau dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae cam cyntaf y gwaith wedi canolbwyntio ar reoli dŵr yn fwy effeithiol, gan osod pibellau draenio mwy a systemau draenio newydd, ac ail-lunio rhannau o'r safle fel nad yw dŵr yn cronni ac y gall lifo i ffwrdd yn haws. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau'r risg o lifogydd, atal dŵr rhag cronni ac amddiffyn y safle rhag erydiad.

Bydd gwaith ar yr ail gam yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf a bydd yn canolbwyntio ar ail-lunio llethrau'r domen. Bydd hyn yn cynnwys ail-lunio ardaloedd serth, ychwanegu mwy o ddraeniau a gwneud gwaith tirlunio, gan gynnwys hau glaswellt a phlannu coed.

Drwy gydol y gwaith, mae'r Cyngor wedi cadw preswylwyr yn rhan o'r broses ac yn wybodus drwy gyfarfodydd rheolaidd, ac wedi gwrando ar eu pryderon a gweithredu arnynt. Mae'r gymuned hefyd wedi cael cyfle i weld y gwaith sy'n cael ei wneud drostynt eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a’r Amgylchedd:

"Gwyddom pa effaith gafodd y digwyddiad hwn ar drigolion lleol, ac rydym yn deall bod pryderon ynghylch hen domenni glo yn parhau i fod yn real iawn i gymunedau ar draws Cymru. Ers y tirlithriad, rydym wedi gweithio'n agos gyda phobl leol i ailadeiladu ymddiriedaeth, cadw trigolion yn wybodus a sicrhau bod eu lleisiau wedi'u clywed trwy ymgysylltu a diweddariadau rheolaidd.

"Rydym yn croesawu buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru mewn diogelwch tomenni glo ac yn cefnogi'n llawn ei hymrwymiad i ddiogelu cymunedau sy'n byw ger y safleoedd hyn. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn gwneud y safle hwn yn fwy diogel, yn gryfach ac yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion, Llywodraeth Cymru a'n partneriaid wrth i ni gyflawni'r cam nesaf o welliannau, gan gadw'r gymuned yn wybodus ym mhob cam o'r broses a sicrhau bod y safle'n parhau i fod yn wydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ar 24ain Tachwedd, cafodd 40 o gartrefi eu gwagio yn oriau mân y bore yn dilyn llithriad deunydd o'r domen. Dilynwyd hyn gan waith glanhau helaeth a gwaith ymchwilio ar y safle. Yna, lluniodd y Cyngor raglen waith fanwl a sicrhau cyllid i wella diogelwch a gwydnwch y safle.