Gwaith ar Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Newydd yn Parhau

Bu ffocws y Cyngor ar drin heriau pandemig Covid-19 dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Ond mae gwaith yn dal i fynd rhagddo’n dda ar adeiladu’r Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi newydd yn Roseheyworth, Abertyleri. Hwn fydd yr ail safle yn y fwrdeistref sirol a bydd ar agor i breswylwyr chwe diwrnod yr wythnos. Disgwylir y bydd yn barod erbyn diwedd mis Medi 2020.

Mae lluniau drôn diweddar yn dangos sut mae’r safle £2 miliwn sydd ag arwynebedd o 10,750 m2 yn datblygu.

Bydd y ganolfan ailgylchu arweiniol yn ased pwysig i bobl Blaenau Gwent. Cafodd ei hadeiladu’n bwrpasol i alluogi preswylwyr i ailgylchu ac ailddefnyddio eu sbwriel yn ddiogel ac effeithiol. Bydd y safle yn rhoi ystod lawn o wasanaethau ailgylchu i dderbyn eitemau fel soffas, nwyddau gwyn tebyg i rewgelloedd, oergelloedd a pheiriannau golchi, celfi rhydd yn cynnwys byrddau, cadeiriau a chypyrddau dillad, ynghyd â charpedi ac isgarpedi.

Cynlluniwyd y ganolfan i roi mynediad rhwydd gyda ffordd fynediad hir i ddefnyddwyr y Ganolfan i atal ciwiau’n ymestyn i’r briffordd, yn sylweddol mwy o leoedd parcio a gyda lleoedd i’r anabl, mynediad i gerddwyr a phwyntiau gwefru trydan ar gyfer ceir.

Darparwyd cyllid ar gyfer y datblygiad gan Lywodraeth Cymru. Cynlluniwyd y ganolfan gan dimau Gwasanaethau Technegol y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymunedol:

“Rwy’n falch fod gwaith ar y safle modern a hygyrch hwn yn mynd rhagddo’n dda a bod y gwaith adeiladu ar y targed i gael ei orffen yn yr hydref. Bydd y safle hwn yn ei gwneud yn rhwyddach byth i’n preswylwyr ailgylchu mwy o’u gwastraff cartref. Mae’r buddsoddiad yn rhan o’n strategaeth gwastraff ac yn un o nifer o fesurau hirdymor y mae’r Cyngor yn ymgymryd ag ef i ateb targedau ailgylchu uwch Llywodraeth Cymru. Bydd y ganolfan newydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau ail-ddefnyddio celfi lle gall preswylwyr roi eitemau sydd mewn cyflwr da a heb ddiffygion fel y gellir eu prynu a’u hail-ddefnyddio gan rywun arall. Rwy’n edrych ymlaen at i’r ganolfan gael ei chwblhau a bod ar agor i breswylwyr yn ddiweddarach eleni.”

Gosodir signalau traffig newydd ar gael ar gyffordd A467/Roseheyworth fel rhan o’r gwelliannau i ffwrdd o’r safle sy’n gysylltiedig gyda’r datblygiad newydd.