Gwahoddiad i ddweud eich barn ar ysgol 3-16 oed ar gyfer disgyblion SEBD

Mae nifer o ffyrdd y gallwch ddweud eich barn yn ystod yr ymgynghoriad sy'n cynnwys holiadur ar-lein, drwy lythyr neu mewn un o gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus galw heibio a anelwyd at ddisgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach drwy gydol mis Tachwedd.

Mae'r Cyngor wedi cydnabod yr angen i adolygu darpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n cyflwyno gyda SEBD. Cynigir sefydlu ysgol newydd yn defnyddio adeiladau a chyfleusterau presennol yn ardaloedd Glynebwy a Thredegar a byddid hefyd yn cadw elfen o hyfforddiant cartref/cymunedol. Byddai'r ysgol yn cynnig 24 lle parhaol a 40 lle 'troi o amgylch'. Byddai ganddi ei chorff llywodraethu a'i thîm arweinyddiaeth ei hun.

Caiff canfyddiadau'r ymgynghoriad eu bwydo'n ôl i Bwyllgor Gwaith y Cyngor ym mis Ionawr 2017 a gwneir penderfyniad ar sut i symud ymlaen. 

Cynhelir digwyddiadau ar:

  • Dydd Mercher 2 Tachwedd - Tŷ Bedwellte, Tredegar, 5.30pm i 7pm
  • Dydd Mercher 2 Tachwedd - Metropole Abertyleri, 5.30pm i 7pm
  • Dydd Iau 3 Tachwedd - Canolfan Adnoddau Rhasa, Glynebwy, 5.30pm i 7pm
  • Dydd Iau 3 Tachwedd - Sefydliad Llanhiledd, 5.30pm i 7pm
  • Dydd Llun 7 Tachwedd - Clwb Rygbi Brynmawr, 5.30pm i 7pm
  • Dydd Mawrth, 8 Tachwedd - Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, 5.30pm i 7pm
  • Dydd Mercher 9 Tachwedd - Canolfan Plant Integredig Blaenau, 5.30pm i 7pm

Gellir hefyd wneud ymatebion fel sy'n dilyn:

  • Drwy lythyr at Lynn Phillips, Pennaeth Trawsnewid Addysg a Pherfformiad, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llys Einion, Abertyleri NP13 1DB
  • Drwy e-bost at 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk
  • Drwy lenwi'r holiadur ar-lein at http://www.blaenau-gwent.gov.uk/resident/schools-learning/21st-century-schools-consultation/


Caiff ymatebion eu derbyn rhwng dydd Llun 31 Hydref a dydd Llun 12 Rhagfyr 2016.


Y cynnig yr ymgynghorir arno yw:

‘Cau'r ddarpariaeth addysg ddilynol ar 31 Awst 2017:

- Canolfan Adnoddau Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer anghenion cymhleth a leolwyd yn Ysgol Gynradd Glyncoed ac Unedau Cyfeirio Disgyblion Canolfan yr Afon Fach a Chanolfan yr Afon yng Nghanolfan Thomas Richards, Tredegar, hen safle ysgol Pontygof a Tŷ Stiwardiaid, Glynebwy.

... ac..

Yn weithredol o 1 Medi 2017, sefydlu Cymuned Ddysgu (Ysgol) 3-16 oed cyfrwng Saesneg gymunedol a gynhelir a all hefyd ddarparu ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg gyda SEBD, gan arwain at ddarpariaeth integredig a chanolfan adnoddau barhaol. Bydd y ddarpariaeth hefyd yn gweithredu fel canolfan rhagoriaeth i gefnogi ysgolion prif ffrwd wrth feithrin gallu ar gyfer disgyblion SEBD. Caiff y ddarpariaeth ei lleoli ar y safleoedd dilynol:

  • Canolfan Thomas Richards, Tredegar;
  • Hen safle ysgol Pontygof;
  • Safle Tŷ Stiwardiaid, Glynebwy; a
  • darpariaeth alwedigaethol ar safle i gael ei benderfynu.