
Mae tadau ar draws Blaenau Gwent yn elwa ar grŵp cymunedol sy'n tyfu, sy'n helpu tadau i feithrin cyfeillgarwch, gwella eu llesiant a chefnogi ei gilydd trwy greadigrwydd a phrofiadau a rennir.
Mae'r Grŵp Creadigol i Dadau a gefnogir gan Wasanaeth Cymorth i Dadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – yn cynnig gofod croesawgar lle gall tadau ddod at ei gilydd, lleihau ynysigrwydd cymdeithasol a mwynhau cefnogaeth gan gyfoedion wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
Mae'r grŵp wedi datblygu o waith ehangach y Gwasanaeth Cymorth i Dadau a'r prosiect llesiant creadigol llwyddiannus a ddarparwyd mewn partneriaeth ag Inside Out Cymru. Trwy gerddoriaeth, creadigrwydd a sgwrsio, mae tadau wedi gallu meithrin hyder, gwella eu llesiant meddyliol a ffurfio cyfeillgarwch parhaol.
Mae Alex Lupo, Therapydd Cerdd, wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r grŵp, gan helpu tadau i archwilio eu creadigrwydd cerddorol mewn amgylchedd hamddenol ac anogol, tra'n hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant meddyliol cadarnhaol. Mae prosiect Gweithwyr Cymorth i Dadau y Cyngor hefyd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi tadau, boed hynny un-i-un neu drwy weithgareddau grŵp, gan sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu llunio o amgylch yr hyn sydd bwysicaf i dadau a'u teuluoedd.
Yn y cam nesaf, bydd aelodau'r grŵp yn cymryd mwy o berchnogaeth dros ei ddyfodol. Mae nifer o dadau bellach yn mynd trwy hyfforddiant a gwiriadau gwirfoddolwyr, gyda'r nod o helpu i arwain a llunio'r grŵp eu hunain. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Y Fargen ym Mlaenau Gwent i weithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, gan gydnabod sgiliau a chryfderau preswylwyr a'u cefnogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Mae'r Grŵp Creadigol i Dadau wedi creu amgylchedd cefnogol lle gall tadau gysylltu â'i gilydd, magu hyder a gwella eu llesiant. Mae'n wych gweld tadau bellach yn camu ymlaen i helpu i arwain y grŵp a llunio ei ddyfodol. Mae eu hymrwymiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall cefnogaeth gan gyfoedion a chysylltiadau cymunedol ei chael ar deuluoedd ar draws Blaenau Gwent."
Daeth digwyddiad dathlu diweddar, a gynhaliwyd yn hael gan Love Church Wales, â thadau, eu plant a'u teuluoedd ynghyd i ddathlu llwyddiannau'r grŵp. Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad oedd y tadau yn perfformio cân wreiddiol roeddent wedi'i hysgrifennu gyda'i gilydd; roedd hyn yn arddangos yr hyder, y creadigrwydd a'r cyfeillgarwch sydd wedi datblygu drwy'r grŵp.
Hoffai'r Cyngor hefyd ddiolch i Glwb RTB Cwm, sy'n cynnal y sesiynau wythnosol ac yn parhau i ddarparu gofod cymunedol gwerthfawr i dadau ar draws Blaenau Gwent.
Mae'r Grŵp Creadigol i Dadau yn cyfarfod bob dydd Iau yng Nghlwb RTB Cwm, ac mae'n croesawu pob tad, taid a llys-dad o bob rhan o'r fwrdeistref sirol. P'un a ydych am gwrdd â phobl newydd, rhoi cynnig ar rywbeth creadigol, neu'n syml dreulio amser gydag eraill sy'n deall heriau bod yn dad – mae croeso i bawb.
Am fwy o wybodaeth, neu i ymuno â'r grŵp, cysylltwch â Chanolfan Cymorth i Deuluoedd Blaenau Gwent drwy e-bostio familysupporthub@blaenau-gwent.gov.uk, a bydd aelod o'r tîm Gweithwyr Cymorth i Dadau yn cysylltu â chi.