Grantiau Busnes: Dyddiad Cau yn Agosáu

Ar ddechrau’r cyfyngiadau symud, roedd Llywodraeth Cymru yn gyflym i ddarparu grantiau o £10,000 a £25,000 ar gyfer busnesau y mae argyfwng Covid-19 wedi effeithio arnynt. Derbyniodd busnesau a sefydliadau sydd wedi cofrestru am ardrethi busnes grantiau o naill ai £10,000 neu £25,000 yn dibynnu ar faint y safle.

Hyd yma talwyd mwy na £13.77 i 1,231 o fusnesau Blaenau Gwent, fodd bynnag mae amser yn dod i ben i wneud cais am grant ac mae’n bosibl y gallai eich busnes ddal i gael budd os gweithredwch nawr. Mae’r cynllun yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020 felly mae angen i fusnesau lleol weithredu’n gyflym i sicrhau nad ydynt yn colli mas.

Dywedodd Neal Elstone o Your Way Events Management:
“Roedd y grant yn fendith i ni, byddai’n cwmni wedi gorfod cau hebddo. Mae’r grant yn ein helpu i dalu ein rhent a’n gorbenion nes gallwn ailagor. Hoffwn ddiolch i swyddogion Cyngor Blaenau Gwent a’n gefnogodd drwy’r cyfnod anodd hwn ac ymladd ein cornel i’n helpu i sicrhau’r grant.”

Os credwch y gallai eich busnes yn gymwys, mae manylion sut i wneud cais ar gael yma https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/business/advice-for-business-covid-19/ .

Os nad ydych yn sicr os bydd eich busnes yn gymwys, neu os hoffech drafod y broses grant ffoniwch y tîm are 01495 355212 os gwelwch yn dda.

Dywedodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd, mae’n bwysig fod cynifer o’n busnesau ag sydd modd yn sicrhau’r cyllid sydd ar gael iddynt. Mae gennym dîm gwych o swyddogion yn barod i helpu, cynghori a phrosesu eich cais felly gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn gwneud y cais cyn i chi golli’r dyddiad cau.”