Grant i Fusnesau Newydd

Mae hwn yn grant i roi cymorth ariannol i fusnesau sydd newydd gael eu sefydlu ar sail hunangyflogedig, sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19


GRANT I FUSNESAU NEWYDD – DIBEN Y GRANT

Diben y grant yw cynorthwyo busnesau newydd eu sefydlu drwy roi cymorth uniongyrchol gyda eu llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd yr argyfwng COVID-19. Nod y grant yw ategu mesurau eraill ar gyfer ymateb i COVID-19 i helpu busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.  

BUSNES CYMRU

Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer busnesau newydd a busnesau micro, bychan a chanolig yng Nghymru. Gall y gwasanaeth eich helpu i ddeall eich anghenion a darparu pecynnau cymorth wedi eu teilwra, gan gynnwys mynediad at offerynnau ar-lein, gweithdai, cynghorwyr arbenigol a mentoriaid. Yn ogystal â gweithio gyda chi i lunio diagnostig busnes a chynllun gweithredu, gall ein cynghorwyr hefyd ddarparu cyngor ariannol wedi’i dargedu a chael mynediad at gymorth arall a allai fod o fudd ichi.

Pan fydd y grant wedi cael eu dyfarnu caiff ymgeiswyr gofrestru ar gyfer cymorth gyda Busnes Cymru.  Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru ar gyfer cymorth gyda Busnes Cymru unwaith y bydd y grant wedi cael ei ddyfarnu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/cy.


GRANT I FUSNESAU NEWYDD – PWY GAIFF WNEUD CAIS?

Mae grant o £2,500 ar gael i helpu busnesau newydd eu sefydlu yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng COVID-19.

Dim ond busnesau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol sy’n gymwys i wneud cais:

• Dyddiad dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020
• Trosiant blynyddol a ragwelir o lai na £50,000
• Ddim yn derbyn Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, y Gronfa Cadernid Economaidd neu’r cynllun grantiau Covid-19 i fusnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi busnes yng Nghymru
• Rhaid bod y busnes yn gweithredu yng Nghymru
• Rhaid i fusnesau fod ag o leiaf un o’r canlynol
o Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) gan CThEM
o Rhif Cofrestru TAW neu Dystysgrif Eithrio o TAW 
o Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau bod y busnes wedi’i gofrestru gydag CThEM
 Wedi gweld trosiant yn gollwng mwy na 50% o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19 rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020
 Rhaid i fusnesau sy’n derbyn cymorth geisio cadw eu cyflogeion am 12 mis
 Ni chaiff unrhyw fusnes wneud mwy nag un cais
 Bydd angen i fusnesau ddarparu
 Tystiolaeth adnabod (un o’r canlynol)
i. Trwydded yrru-lun y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd
ii. Pasbort cyfredol wedi’i lofnodi
iii. Tystysgrif Geni wreiddiol

 Tystiolaeth o gyfeiriad y busnes (un o’r canlynol)
i. Bil y Dreth Gyngor
ii. Bil cyfleustodau
iii. Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau bod y busnes wedi’i gofrestru gydag CThEM

 Tystiolaeth o fasnachu gweithredol hyd at 17 Mawrth 2020
i. Bydd angen darparu cyfriflen banc


Mae’r grant ar gael i fusnesau newydd eu sefydlu nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Grant Ardrethi Busnes, y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws na’r Gronfa Cadernid Economaidd.

Nid yw perchnogion ail gartrefi sydd â chytundebau tenantiaeth byr neu hir yn gymwys ar gyfer y grant hwn.


GRANT I FUSNESAU NEWYDD – AM FAINT Y CEWCH CHI WNEUD CAIS?

Mae grant o £2,500 ar gael fesul busnes, i roi cymorth uniongyrchol gyda llif arian i helpu busnesau i barhau i fod yn solfent pan fydd masnachu wedi cael ei rwystro.  

Mae angen i fusnesau ddangos y byddai hyfywedd y fenter o dan fygythiad heb y cymorth grant, ac amlinellu pam.

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol, a’r Awdurdod Lleol fydd â’r disgresiwn llwyr i dalu’r grant – yn unol â’r meini prawf a amlinellir yn y canllawiau hyn.

GRANT I FUSNESAU NEWYDD – SUT I WNEUD CAIS

Gall busnesau wneud cais am y grant drwy ddefnyddio Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Cadernid Economaidd ar wefan Busnes Cymru yn https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy. Os ydych yn gymwys byddwch yn cael eich cyfeirio at wefan eich awdurdod lleol lle byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais ar-lein neu byddwch yn gallu lawrlwytho’r ffurflen gais (nodwch y ddolen i’r cais), cwblhewch yr holl feysydd y gofynnwyd amdanynt  ac e-bostiwch i business@blaenau-gwent.gov.uk ynghyd â'r dogfennau tystiolaeth gofynnol. 

Derbynnir tystiolaeth ar ffurf dogfennau a ffotograffau wedi eu sganio at y diben hwn.

Bydd y Grant i Fusnesau Newydd yn agor ar 29 Mehefin 2020 ac yn parhau nes bod yr holl  gronfa wedi cael ei defnyddio. Mae 2,000 o grantiau ar gael ledled Cymru, a bydd ceisiadau’n derbyn sylw ar sail y cyntaf i’r felin. Mae’n bosibl y bydd hyn yn golygu na fydd rhai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno’n cael eu gwerthuso, os yw’r holl gronfa wedi cael ei defnyddio. 

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn llwyr i bennu hyd a thelerau’r gronfa.

CANLLAWIAU
Grant Cychwyn Busnes – Ffurflen Gais