Gorymdeithiau a Gwasanaethau Cadoediad Blaenau Gwent

GORYMDEITHIAU A GWASANAETHAU CADOEDIAD BLAENAU GWENT

10 TACHWEDD 2019
 

Rasa a Beaufort
 
Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio ardal Rasa a Beaufort ddydd Sul 10 Tachwedd 2019.
 
Bydd yr Orymdaith yn cwrdd tua 1:15pm yn Nawnsfa Beaufort, yna am 1.30pm bydd yr orymdaith yn cynnull wrth brif fynedfa Theatr Beaufort. Am 1.45pm bydd yr orymdaith yna'n symud lawr Beaufort Rise i'r Senotaff lle bydd y Gwasanaeth Cofio yn dechrau tua 1:55pm.

Ar ôl y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ailffurfio ac yn gorymdeithio yn ôl ar hyd Beaufort Rise i Theatr Beaufort lle bydd lluniaeth ar gael, cyn cael ei ollwng

 
Glynebwy
 
Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio yng Nglynebwy ddydd Sul 10 Tachwedd 2019. Bydd yr Orymdaith yn cynnull yn Stryd Bethcar ger Wetherspoons, Glynebwy, am 10.15a.m. ac am 10.30am bydd yn symud ymlaen ar hyd Stryd y Farchnad a Heol Libanus i'r Gofeb Rhyfel ar gyfer y Gwasanaeth Cofio, fydd yn dechrau am 10.50am.

Ar ôl y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ailffurfio ac yn cerdded yn ôl lan Heol Libanus gyda'r saliwt yn Stryd y Farchnad cyn cael ei ollwng,

Ar ôl gollwng yr orymdaith, dosberthir lluniaeth ar gyfer mudiadau ieuenctid gan gynrychiolwyr Sgowtiaid Penuel yn y Ganolfan Dysgu Gweithredol ar Stryd y Farchnad.

 
Brynmawr
 
Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio ym Mrynmawr ddydd Sul 10 Tachwedd 2019, yn cynnull am 10.15am tu allan i Glwb y Lleng Brydeinig ar ben uchaf Stryd Beaufort. Bydd yr orymdaith yn gadael tua 10.25am, ar hyd Stryd y Brenin, Stryd Somerset, Stryd Bailey ac ymlaen i Stryd Alma, i ddadffurfio ac ailgynnull o fewn Sinema Neuadd y Farchnad yn barod ar gyfer "Dau Funud o Ddistawrwydd" am 11.00am gyda Gwasanaeth Cofio i ddilyn.

Bydd yr Orymdaith yn ailffurfio unwaith eto tua 11.40am ar Stryd Alma i orymdeithio i'r Senotaff ar Sgwâr y Farchnad ar gyfer gosod torchau. Unwaith y bydd wedi cwblhau bydd yr Orymdaith yn dychwelyd i Glwb y Lleng ar hyd Stryd Beaufort. Bydd lluniaeth ar gael yng Nghlwb y Lleng Brydeinig.


Cwm

Bydd yr Orymaith yn ymgynnull ac yna'n gadael gwaelod Stryd Marine am 10.20am ac yn gorymdeithio at y Gofeb Rhyfel tu allan i'r Llyfrgell am y Gwasanaeth Cofio am 10:45am.


Nantyglo a Blaenau

Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio yn ardal Nantyglo a Blaenau ddydd Sul 10 Tachwedd 2019, yn dechrau am 2.10pm o Groes Garn, Nantyglo, yn symud ymlaen i'r Gofeb Rhyfel, Parc Canolog, Blaenau ar gyfer Gwasanaeth Cofio am 2.45pm.

Yn dilyn y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ailffurfio ac yn gorymdeithio i'r Sefydliad/Llyfrgell, Stryd Fawr, Blaenau, cymerir y saliwt yn Hen Swyddfa'r Cyngor Dosbarth, gyda'r Orymdaith yn cael ei gollwng tu allan i Sefydliad/Llyfrgell Blaenau.

Ar ôl gorffen y Gwasanaeth a'r Orymdaith, bydd lluniaeth ar gael yng Nghlwb Rygbi Nantyglo.

Bydd cludiant ar gael ar gyfer rhai sy'n mynychu'r orymdaith o ardal Blaenau yn gadael Sefydliad Blaenau am 2pm  i fynd i Groes Garn, ar gyfer dechrau'r Orymdaith. Unwaith y gollyngwyd yr orymdaith tu allan i Sefydliad/Llyfrgell Blaenau, bydd cludiant ar gael i fynd â rhai sy'n mynychu'r orymdaith i Glwb Rygbi Nantyglo gyda chludiant hefyd ar gael i fynd â'r rhai a fynychodd yr orymdaith yn ôl i Groes Garn, Nantyglo tua 6pm.
 

Tredegar
 
Cynhelir Gorymdaith Sul y Cofio yn Nhredegar ddydd Sul 10 Tachwedd 2019. Cyrraedd Eglwys San Siôr am 9.45am ar gyfer y gwasanaeth, cynnull tu allan i Eglwys San Siôr am 10.30am, gorymdeithio i'r senotaff ym Mharc Bedwellte ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau yn dechrau am 10.50am. 'Dau Funud o Ddistawrwydd' am 11am.


Abertyleri
 
Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio yn Abertyleri ddydd Sul 10 Tachwedd 2019. Cynnull am 10.15am ym mhen uchaf Stryd yr Eglwys, gorymdeithio am 10.30am, cyrraedd y gofeb rhyfel am 10.45am ac yna ailgynnull am 11.15am ar gyfer gorymdeithio i Citadel Byddin yr Iachawdwriaeth am wasanaeth eglwys.

Llanhiledd
 
Dydd Sul 10 Tachwedd 2019. Cynnull am 10.15m yn Eglwys Sant Marc, gorymdeithio am 10.30am ar gyfer gwasanaeth yn y gofeb rhyfel, Sefydliad Llanhiledd am 10.45am.

 
Bournville
 
Dydd Sul 10 Tachwedd 2019. Cynnull yn y Neuadd Gymunedol am 3pm. Gosodir torchau ar y gofeb rhyfel.