Gorymdaith Catrawd y Cymru Brenhinol drwy Frynmawr

Bu Catrawd y Cymry Brenhinol eu gweithredu eu Rhyddid o Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pan fuont yn gorymdeitho drwy ganol tref Brynmawr ddydd Sadwrn.

Dilynwyd yr orymdaith gan ddadorchuddio carreg goffa i'r CSM John Henry Williams, gynt o Nantyglo. Derbyniodd CSM Williams Groes Victoria (VC) am ei ddewrder a'i gymhelliant ar noswaith 7-8 Hydref 1918, yn ystod ymosodiad ar Villers Oureaux, Ffrainc, yn ystod misoedd olaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliwyd y dadorchuddiad tu allan i Neuadd Pensiynwyr Nantyglo gydag aelodau o deulu Mr Wiilliams yn bresennol.

Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 22 Medi, mewn partneriaeth gyda Chyngor Blaenau Gwent, Cyngor Tref Brynmawr a Chatrawd y Cymry Brenhinol.

Y tro diwethaf i'r Gatrawd weithredu ei rhyddid o'r fwrdeistref sirol chwe mlynedd yn ôl pan fu milwyr yn gorymdeithio drwy Lynebwy. Mae'r gatrawd wedi dychwelyd yn ddiweddar o gyfnod yn Estonia a chredai ei bod yn amser addas i ail-gadarnhau'r rhyddid.

Ar y dydd ffurfiodd tua 125 o filwyr ar Sgwâr y Farchnad. Dechreuodd seremoni fer yn cynnwys archwiliad o'r milwyr ac areithiau cyn i'r milwyr deithio drwy'r dref lan Stryd Beaufort, ar hyd Stryd y Brenin, lawr Stryd Somerset ac yn ôl i Sgwâr y Farchnad ar hyd Stryd Bailey.

Fel ran o ganmlwyddiant cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf, cynhyrchwyd carreg i goffau dewrder pob person a gafodd Groes Victoria i'w gosod yn eu bro eu hunain. Mae mwy o wybodaeth am John Henry Williams a pham yr enillodd y VC ar gael yn http://www.thevalleys.co.uk/heroes-search/hero.aspx?h=1

Arweinwyd y dadorchuddio gan y Parch Roy Waton ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Blaenau Gwent, y Cynghorydd Brian Thomas, a theulu Mr Williams.

Roedd gan Sinema Neuadd y Farchnad Brynmawr ddangosiad arbennig o'r ffilm 'War House' ar y diwrnod hefyd.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gefnogwr cryf i'r Lluoedd Arfog ac mae'r Cynghorydd Brian Thomas yn cadeirio Grŵp Llywio Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Dywedodd: "Fel grŵp rydym yn hyrwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog sy'n addewid i'r genedl i sicrhau fod y rhai sy'n gwasanaethu neu a wasanaethodd yn y lluoedd arfog, eu teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae'r Orymdaith yma a dadorchuddio'r garreg ill dau yn rhannau o brosiect ehangach 'Blaenau Gwent yn Cofio' a gyflwynir mewn paertneriaeth gan y grŵp llywio gyda chyllid o Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog. Caiff ei gyflwyno yn y cyfnod cyn canmlwyddiant y Cadoediad i godi ymwybyddiaeth, i gofio treftadaeth y lluoedd arfog a dathlu ein lluoedd arfog cyfredol."

Dywedodd Ann Page, wyres John Henry Williams:

"Rydym yn falch tu hwnt o'n tad-cu, John Henry Williams, ac yn ddiolchgar iawn fod pobl Blaenau Gwent yn rhannu ein balchder ac yn helpu i gadw'r cof amdano'n fyw drwy hefyd gynnwys plant ysgol mewn digwyddiadau coffa.

"Mae'n bwysig bod pob oedran yn cael eu hatgoffa, nid yn unig am weithredoedd dewr ein tad-cu, ond hefyd am aberth cynifer o ddynion ifanc eraill a'u teuluoedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan ein tad-cu a phawb a enillodd VC le arbennig yn ein hanes - fel y dewraf o'r dewr."