Gorchmynion Diogelu Mannau Agored i'r Cyhoedd (Rheoli Cŵn)

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi pleidleisio'n unfrydol i adnewyddu nifer o Orchmynion Diogelu Mannau Agored i'r Cyhoedd (Rheoli Cŵn) ar draws y fwrdeistref sirol.

Cyflwynwyd y Gorchmynion ym mis Tachwedd 2016, ac maent yn parhau'n bennaf yr un fath heblaw am rai newidiadau am hen safleoedd ysgolion a safleoedd ysgol newydd. Daw'r gorchmyinon newydd i rym o 1 Tachwedd 2019.

Gellir gweld lleoliadau'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored i'r Cyhoedd yn adran Iechyd yr Amgylchedd ar wefan y Cyngor - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/iechyd-yr-amgylchedd/gorchmynion-diogelu-gofod-cyhoeddus/

Mae tri math o Orchymyn Rheoli Cŵn:

• Baeddu Tir gan Gŵn - bydd hyn yn weithredol ar draws y Fwrdeistref Sirol, lle bydd yn drosedd peidio codi baw cŵn.

• Ardaloedd Gwahardd Cŵn - bydd hyn yn weithredol ar gyfer ardaloedd penodol o dir a ddynodwyd gan gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd caniatáu i gi fynd i mewn i ardal a gafodd ei dynodi fel ardal gwahardd cŵn.

• Ardaloedd Cŵn ar Dennyn - bydd hyn yn weithredol i ardaloedd penodol o dir a ddynodwyd gan gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd peidio cadw ci ar dennyn mewn ardal a gafodd ei dynodi fel ardal cŵn ar dennyn.

Bydd unrhyw un a welir yn cyflawni trosedd dan y gorchmynion yn derbyn hysbysiad cosb sefydlog o £100, gyda methiant i dalu yn arwain at gamau cyfreithiol a allai arwain at uchafswm dirwy o £1,000.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

"Cafodd y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored i'r Cyhoedd eu cyflwyno fel canlyniad i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ac ar wahân am fater baw cŵn, sydd mewn grym ar unrhyw dir cyhoeddus, maen nhw'n ymwneud yn bennaf â chaeau chwarae ac ysgolion, a chawsant eu cynllunio gyda diogelwch plant a phobl ifanc dan sylw. Rwy'n falch fod ein haelodau yn dal i ystyried y gorchmynion hyn fel rhan bwysig o'r gwaith gorfodi a wnawn yn ein cymunedau, a hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r cyhoedd a roddodd eu sylwadau fel rhan o'r ymgynghoriad".