Golau gwyrdd i fannau gwefru ceir

Derbyniodd awdurdodau lleol Gwent £459,000 gan OLEV (Swyddfa Cerbydau Allyriad Isel) i osod mannau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio mewn ardaloedd preswyl.

Diolch i'r cyllid, bydd y pump awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen) yn gweithio i osod seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws 33 o feysydd parcio awdurdodau lleol yng Ngwent - gan osod hyd at 73 o fannau gwefru cyflym.

Cafodd y cynnig ei lunio ar y cyd gan yr awdurdodau gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a'i gyflwyno gan Gyngor Blaenau Gwent. Cafodd y prosiect hefyd gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru a dalodd am astudiaeth dichonolrwydd.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:
"Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn ar ran yr holl gynghorau. Bydd y cyllid yn helpu i sefydlu seilwaith ledled Gwent i roi cyfle i breswylwyr i yrru cerbydau trydan yn  dyfodol.Mae'r Cyngor a'n partneriaid allweddol yn ymroddedig i helpu cadw'r amgylchedd drwy gefnogi ynni adnewyddadwy a gostwng ein ôl-troed carbon. Mae llawer o bobl yng Ngwent sy'n angerddol am hyn hefyd. Drwy weithio gyda sefydliadau partner, rydym yn hynod falch i fedru roi hyder iddynt ddefnyddio cerbydau trydan yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Yn dilyn datgan argyfwng hinsawdd, rydym eisiau cydweithio mewn partneriaeth gyda chyrff sector cyhoeddus tuag at nod gyffredin i ddatblygu a darparu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer pobl, lleoedd a chenedlaethau’r dyfodol yng Ngwent ac yng Nghymru.

Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl yn ystod y newid i drafnidiaeth carbon isel a bydd y cyllid hwn yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau i gerbydau trydan preswyl. Bydd hefyd yn agor y potensial ar gyfer cynnig cludiant cymunedol a hwylusir drwy gael parcio neilltuol oddi ar y stryd yn ardal Gwent.”

Dywedodd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau, De Ddwyrain Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Yn dilyn datganiad argyfwng hinsawdd, mae gennym rôl fwy byth i'w chwarae wrth gyfyngu achosion newid hinsawdd a hefyd addasu i'w effeithiau anochel.
"Mae'r prosiect yn dangos yn glir y manteision a all ddod o sefydliadau sector cyhoeddus yn cydweithio tuag at nod gyffredin.
"Rydyn ym ymroddedig i weithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr ardal i ddatblygu a sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer pobl, lleoedd a chenedlaethau'r dyfodol yng Ngwent ac yng Nghymru."

Caiff y mannau gwefru cerbydau trydan eu gosod mewn meysydd parcio yn agos at ardaloedd preswyl i gefnogi preswylwyr heb fannau parcio oddi ar y stryd i newid i gerbydau trydan. Bydd manylion pellach am y lleoliadau yn dilyn. Y nod yw mynd i'r afael â rhwystrau i ddefnyddio cerbydau trydan mewn ardaloedd preswyl a achosir drwy beidio bod â pharcio penodol oddi ar y stryd (h.y. dim lon o flaen y tŷ neu garej lle medrid gwefru cerbyd trydan).

Nodiadau
Caiff Cynllun Man Gwefru Strydoedd Preswyl ei gyllido gan OLEV a'i ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid i gefnogi costau cyfalaf caffael a gosod mannau gwefru ar y stryd ar gyfer defnydd preswyl. Mae'r cynllun yn cynyddu seilwaith mannau gwefru cerbydau  trydan ar gyfer rhai nad oes ganddynt fynediad i barcio oddi ar y stryd. Mae defnydd cynyddol o gerbydau trydan yn cyfrannu at wella ansawdd aer ac allyriadau carbon is.
Cyhoeddwyd £2.5m ychwanegol o gyllid ORCS ar gyfer 2019/20 ym mis Awst a gwahoddir ceisiadau gan awdurdodau lleol. Mae manylion pellach ar gael gyda'r ffurflen gais yn: www.energysavingtrust.org.uk/transport/local-authorities/street-residential-chargepoint-scheme