Golau Gwyrdd ar gyfer Dyfarniad Grant Effaith BG

Roedd Andrew eisoes yn defnyddio ei amser a'i arian ei hun pan oedd yn gyflogedig i loywi ei gymwysterau trydanol gan ei fod wedi gweithio'n flaenorol fel trydanwr cymwysedig.

Pan ddaeth ei swydd i ben, gofynnodd am gefnogaeth mentor gan dîm Cymunedau am Waith a Mwy a phenderfynodd ddefnyddio rhan o'i becyn dileu swydd, ynghyd â chymorth ariannol gan Cymunedau am Waith a Mwy, i gwblhau'r 18fed Rheoliadau Trydanol a nifer o gyrsiau rheoleiddiol cefnogol i'w alluogi i ystyried sefydlu A.M Electrical Services.

Mynychodd Andrew sesiwn galw heibio ar sefydlu busnesau Cronfa Effaith BG yn llyfrgell Glynebwy i drafod ei gynlluniau i ddod yn hunangyflogedig a gyda chymorth ychwanegol gan Busnes Cymru, lluniodd gynllun busnes i'w alluogi i gyflwyno cais am gyllid grant am dŵls ac offer trydanol i ddechrau ei fusnes ei hun.

Bu cynllun Cronfa Busnes Effaith BG a thîm Cymunedau am Waith a Mwy yn cydweithio i sicrhau fod Andrew yn derbyn y cymorth angenrheidiol i sefydlu ei fusnes ei hun a bu'n ysbrydoliaeth gweld sut mae hyder Andrew yn ei gred i ddatblygu ei fusnes newydd wedi tyfu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Gall unrhyw un sy'n ystyried sefydlu eu busnes eu hunain fynychu un o'r sesiynau galw heibio wythnosol i fusnesau a gynhelir mewn llyfrgelloedd o amgylch y fwrdeistref neu gysylltu'n uniongyrchol â'r Uned Datblygu Busnes ar 01495 355700 i gael mwy o fanylion.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
"Gyda chefnogaeth cynllun Cronfa Busnes Effaith BG a phartneriaid eraill, gallodd Andrew sefydlu ei fusnes ei hun. Mae'r Cyngor yn falch i gefnogi busnes arall yn yr ardal, fydd yn helpu'r economi lleol. Rydym yn annog busnesau ac unigolion i gysylltu â Tîm Datblygu Economaidd y Cyngor, p'un ai ydych yn fusnes eisoes neu'n meddwl am sefydlu busnes. Dymunaf bob llwyddiant i Andrew a'i fusnes."

I gael cymorth a chyngor ewch i: https://www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk/