Glanhau Dwfn Canol Trefi yn mynd rhagddo ar draws y Fwrdeisdref

Dechreuodd gwaith glanhau dwfn canol trefi yn ddiweddar, gan ddechrau gyda Blaenau a Thredegar. Bu criw o 10 dyn yn glanhau gan chwistrellu dŵr dan bwysedd uchel yng nghanol y trefi i lanhau'r holl balmentydd, celfi stryd a safleoedd bws. Cafodd chwyn a gordyfiant hefyd eu symud. Cynhaliwyd y glanhau dwfn ar ddyddiau Sul dros nifer o wythnosau.  

Ni fydd y gweithgaredd hwn yn disodli glanhau rheolaidd criw glanhau strydoedd y Cyngor, ond yn ychwanegol at y gwaith gan y Cyngor a rhoi sylw i'r manylion fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r ardal.

Bydd canol trefi yn cael eu glanhau'n ddwfn yn flynyddol. Gorffennwyd y gwaith yn Nhredegar a Blaenau a bydd y trefi eraill - Glynebwy, Abertyleri a Brynmawr - yn dilyn yn fuan.

Dywedodd y Cyng Haydn Trollope, Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:

"Mae'r glanhau dwfn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ganol y trefi. Yn dilyn llwyddiant Blaenau a Thredegar, rydym yn awr yn gweithio gyda chanol y trefi eraill yn y Fwrdeisdref i sicrhau eu bod yn manteisio o'r glanhau arbennig yma. Bydd y gweithgaredd yn digwydd yn flynyddol yng nghanol ein trefi. Nid yw'n cymryd lle'r gweithgareddau glanhau rheolaidd gan ein criw glanhau strydoedd, sy'n mynd allan yn wythnosol i sicrhau y caiff canol ein trefi a'r ardaloedd o amgylch eu cadw'n lân. Caiff sbwriel ei gasglu a gwastraff ei symud yn rheolaidd gan ein timau i sicrhau fod yr ardal yn lân a deniadol i bobl ymweld a threulio amser. Rydym yn annog pobl i gael gwared â gwastraff a sbwriel yn y modd cywir i sicrhau fod yr ardaloedd yn parhau'n lân ar gyfer ymwelwyr a'r gymuned leol i'w mwynhau."