Euogfarnau

Ymddangosodd Howell George Jukes o 44 Stryd Stansfield, Cwm, Glynebwy, Blaenau Gwent, yn Llys Ynadon Casnewydd ar 21 Gorffennaf 2017.

Mae Mr Jukes yn berchen fferm Hafod y Dafal, Cwm, Glynebwy. Ym mis Tachwedd 2016 ceisiodd swyddog o Safonau Masnachu Cyngor Sir Powys, yn gweithredu ar ran Blaenau Gwent, ymweld â'r fferm i gynnal archwiliad blynyddol o gofnodion ar dda byw a gweld da byw yn y fferm. Ni ddaeth Mr Jukes i'r fferm ar gyfer yr ymweliad. Rhoddwyd tri chyfle pellach i Mr Jukes ddangos cofnodion da byw i'r swyddog Awdurdod Lleol a methodd wneud hynny bob un o'r tri achlysur.

Cafodd Mr Jukes ei gyhuddo gyda 3 trosedd dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Dynodiad a Symudiad) (Cymru) 2015 yn groes i Adran 73 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Rhoddwyd dedfryd ohiriedig i Mr Jukes am fethiant i waredu â sgîl-gynnyrch anifeiliaid ym mis Ebrill 2016 nad yw wedi dod i ben hyd yma. Ychwanegwyd chwe mis at y ddedfryd ohiriedig. Yn ychwanegol, cafodd Mr Jukes ddirwy o £3000 am bob trosedd, gorswm dioddefwyr o £170 a chyfraniad o £768.72 at gosstau.

Dywedodd Garth Collier, Aelod Gweithrediaeth dros yr Amgylchedd:

"Mae'r euogfarn yma'n profi nad yw torri'r gyfraith yn opsiwn. Mae'n hanfodol i ffermwyr gadw eu cofnodion da byw yn gyfredol i sicrhau bod y cynnyrch sy'n mynd i'r gadwyn fwyd yn ddiogel ac y medrir olrhain yn llawn, ac mae'r euogfarn yma'n gwneud yn siŵr fod hyn yn parhau."