Erthygl Mynd yn Wyllt 2018

Cynhelir y digwyddiad, a drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn ystod Wythnos Natur Cymru sydd ynglŷn â chysylltu pobl gyda natur. Thema eleni yw 'Dyfodol Eco-gyfeillgar' a'r nod yw codi ymwybyddiaeth am sut i fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd a darganfod ffyrdd o fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, tra'n dysgu am yr hyn y gallwn ei wneud ar gyfer natur a'r hyn y gall natur ei wneud i ni. Hoffem ddiolch i gontractwyr yr A465 Costain RPS, CAN, Grŵp PHI ynghyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu caredigrwydd yn noddi Mynd yn Wyllt 2018.

Mae'r digwyddiad hwn yn hollol rad ac am ddim ac yn addo llawer i'r teulu cyfan ei weld a'i wneud. Byddwch yn cwrdd ag anifeiliaid gwyllt fel tylluanod, draenogod, pili pala a gwyfynod. Gallwch weld sut beth yw hi i gadw gwenyn drwy fynd yn agos at wenyn mêl yn y Profiad Pabell Wenyn. Ewch heibio'r arddangosfa a gafodd ei chreu gan blant ysgol Blaenau Gwent o flodau lliwgar mewn poteli plastig lliwgar wedi'u hailgylchu. Bydd llawer o weithgareddau natur ar gael fel teithiau tywys, bomio hadau a gweithgareddau eco-grefftau.

Felly ymunwch â ni am DDIWRNOD MAS MYND YN WYLLT a darganfod natur gyda'n gilydd.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Nadine Morgan (Swyddog Bioamrywiaeth)
01495 356070, Nadine.morgan@blaenau-gwent.gov.uk