Erlyn unigolyn am werthu nwyddau ffug ar-lein

Plediodd Christian Price o Lynebwy yn euog i naw cyhuddiad dan y Ddeddf Nodau Masnach. Derbyniodd ryddhad amodol 3 blynedd. Dyfarnwyd costau llawn yn gyfanswm o £844.33 a gorswm dioddefwyr o £80.00. Gwnaed gorchymyn hefyd ar gyfer fforffedu a dinistrio'r nwyddau.

Daeth yr achos i'r amlwg pan gynhaliodd swyddog Safonau Masnach o Gynghorau Bwrdeistrefi Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen archwiliad arferol o Facebook a gweld yr unigolyn yn hysbysebu a gwerthu dillad, esgidiau, persawr a gemwaith a allai fod yn ffug ar grŵp Prynu Gwerthu a Ffeirio Blaenau Gwent. Roedd lluniau ar y safle o nwyddau'n honni bod yn freichledau Pandora, persawr ac ôl-eilliwr Poco Rabanne, hwdis Ralph Lauren, tracwisgoedd Adidas a Hollister ac esgidiau Nike ymysg eraill.

Dynododd ymchwiliadau pellach fod Mr Price yn cadw'r nwyddau ar safle yng Nglynebwy. Cafodd swyddogion warant mynediad yn y safle hwn lle atafaelwyd tua 100 o nwyddau ffug. Pe byddai'r eitemau hyn wedi bod yn rhai dilys, byddai ganddynt werth stryd o tua £6500 - £7000.

Dywedodd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth dros yr Amgylchedd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae gwerthu nwyddau ffug drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook yn anghyfreithlon ac ni fyddir yn ei oddef. Mae'n fygythiad i'r economi lleol ac i fusnesau lleol. Bydd Safonau Masnach yn parhau i fonitro safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd ac yn gweithredu lle'n briodol. Dylai defnyddwyr feddwl yn ofalus cyn prynu nwyddau cynllunwyr ar-lein ac weithiau gall prisiau isel ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Dylai unrhyw un sy'n credu y gwerthwyd nwyddau ffug iddynt gysylltu â'n tîm Safonau Masnach i gael cyngor."